Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

09 Mehefin 2023

Annog siaradwyr Cymraeg i gael gyrfa yn y maes gofal 

Carer and woman reading a book

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw uchafbwynt y calendr diwylliannol yng Nghymru. Ar ddydd Iau 10 Awst, byddwn yn noddi’r wŷl unigryw hon drwy greu Diwrnod Gofal. Gyda’r bartneriaeth yma rydyn ni’n mawr obeithio denu siaradwyr Cymraeg o bob lefel i ystyried gyrfa yn y maes gofal.

Dewch i gwrdd â ni yn yr ŵyl fywiog hon. Byddwn ym mhabell Gofalwn Cymru ar y cyd gyda Cydweithredfa Gogledd Cymru drwy’r wythnos. 

Bydd y Diwrnod Gofal, ar ddydd Iau 10 Awst, yn cynnwys rhaglen lawn...  

  • byddwch yn ein gweld yn ymlwybro’r maes yn hyrwyddo ein cyrsiau hyfforddiant
  • am hanner dydd byddwn yn cyhoeddi enillydd gwobr Gofalu yn y Gymraeg 2023. Mae’r wobr hon yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg
  • am 3pm ym mhabell Llywodraeth Cymru, bydd sesiwn holi ac ateb gyda phanel o arbenigwyr yn trafod pam fod y Gymraeg mor bwysig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant
  • rydyn ni’n awyddus i glywed am eich profiadau chi o’r maes gofal yng Nghymru, felly dewch atom i gael sgwrs a rhannu eich barn.   

I lawer o siaradwyr Cymraeg mae gallu defnyddio eu hiaith eu hunain yn debygol o fod yn hanfodol i’w gofal. Darllenwch am sut mae cartref gofal Glan Rhos yn Ynys Môn yn credu’n gryf bod defnyddio’r Gymraeg wrth ofalu yn hanfodol i’r gwasanaeth sydd ar gael i’w breswylwyr yma

Gall y Gymraeg fod yn fwy na geiriau i rywun sy’n derbyn gofal. Darllenwch am rai o fanteision defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith a darganfyddwch adnoddau hyfforddi i’ch helpu yma

Sicrhewch y newyddion diweddaraf gan Gofalwn Cymru ar faes yr Eisteddfod drwy ddefnyddio’r hashnod #mwynageiriau: 

Facebook: @GofalwnCymru / @WeCareWales
Trydar: @GofalwnCymru / @WeCareWales
Instagram: @gofalwncymrucares
LinkedIn: @gofalwn-cymru-wecare-wales/ 

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.