Neidio i'r prif gynnwys
Yr iaith Gymraeg

23 Gorffennaf 2024

Diwrnod Gofal Gofalwn Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Graphic for WeCare Wales Care Day which shows Eisteddfod tent, WeCare Wales logo and Care Day logo

Diwrnod Gofal Gofalwn Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae Gofalwn Cymru yn gyffrous i gyhoeddi y byddwn yn ôl am yr ail flwyddyn yn olynol yn noddi’r Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Mawrth 6 Awst gyda’n Diwrnod Gofal.

Unwaith eto, mewn partneriaeth â’r Eisteddfod, bydd Diwrnod Gofal yn dathlu ein siaradwyr Cymraeg ac yn gobeithio denu mwy o siaradwyr Cymraeg o bob lefel i ystyried gyrfa mewn gofal.

Gall y Gymraeg fod yn fwy na geiriau i rywun sy’n derbyn gofal. Darllenwch am rai o fanteision defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith a darganfyddwch adnoddau hyfforddi i’ch helpu yma.

Ein graffeg newydd

Rydyn ni wedi dylunio graffig newydd eleni mewn cydweithrediad â’r Eisteddfod a lansiwyd gennym ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar. Cadwch olwg amdano yn yr Eisteddfod.

Ar y dydd

Bydd y Diwrnod Gofal, ar ddydd Mawrth 6 Awst yn ddiwrnod gwych gyda ffocws ar hybu’r Gymraeg yn y sector gofal. Dyma flas o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl:

  • bydd tîm Gofalwn Cymru a chydweithwyr o Ofal Cymdeithasol Cymru o gwmpas i siarad ac yn awyddus i gael eich barn ar bwysigrwydd y Gymraeg yn y sector gofal
  • bydd y tîm Cyflwyniad i ofal cymdeithasol a Chyflwyniad i ofal plant yn o gwmpas i siarad a hyrwyddo ein cyrsiau hyfforddi am ddim
  • am 12:30pm yn Ganolfan Ymwelwyr y Lido byddwn yn cyhoeddi enillydd Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2024
  • am 3pm yn y Babell Cymdeithasu rydym yn cynnal digwyddiad ar y cyd ag Iechyd, Gofal a’r Gymraeg, Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Coleg Cymraeg
  • bydd Gofalwn Cymru yn cael ei gynrychioli ar stondin Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn y pentref

... a llawer mwy!

Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2024

Mae Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn wobr flynyddol sy’n cydnabod, dathlu a rhannu gwaith y rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl drwy ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynhelir y seremoni wobrwyo am 12.30pm yng Nghanolfan Ymwelwyr Lido. Eleni, mae pump yn y rownd derfynol:

Abbie Edwards, Rheolwr Cofrestredig, Haulfryn Care Limited yn Sir y Fflint

Elain Fflur Morris, Uwch Ofalwr, Cartref Bryn yr Eglwys yng Nghonwy

Leone Williams, Gweithiwr gofal cymdeithasol, Canolfan Adnoddau Cae Glas yn Rhondda Cynon Taf

Myfanwy Harman, Arweinydd, Cylch Meithrin y Gurnos ym Merthyr Tudful

Sian Jones, Rheolwr Busnes, Cartref Preswyl Dewi Sant yn Sir Ddinbych

Gallwch ddarllen mwy amdanynt a phleidleisio am eich enillydd yma

Diwrnod Chwarae #DiwrnodChwarae2024

Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae, sy’n cael ei ddathlu bob blwyddyn ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Awst ac eleni, mae Diwrnod Chwarae yn digwydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod ar 7 Awst. Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar gael i blant ym Mhentref Plant a byddwn yn paratoi ar gyfer y diwrnod mawr hefyd drwy dynnu sylw at rai o’r gwaith a’r cyfleoedd gwych y mae’r sector chwarae yn eu cynnig.

A photograph of 5 playworkers smiling

Yn ddiweddar cawsom y fraint, a llawer o hwyl yn gyda Phrosiect Datblygu Cymunedol Llanharan yn Rhondda Cynon Taf i ddeall mwy am yr hyn y mae chwarae yn ei olygu iddyn nhw a phwysigrwydd cynnal eu sesiynau chwarae mynediad agored yn y gymuned. Gallwch ddilyn eu tudalen Facebook i glywed sut y byddant yn dathlu Diwrnod Chwarae eleni.

Mudiad Meithrin

Mudiad Meithrin's logo

Bydd Mudiad Meithrin hefyd yn dathlu Diwrnod Chwarae ac yn yr Eisteddfod ar stondin #710-712. Byddant yn ymuno yn yr holl hwyl a hefyd yn hyrwyddo eu Cynllun Ysgolion Cam wrth Gam. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd hyfforddi i ddatblygu eich gyrfa mewn gofal plant neu chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg yna ewch draw i’w gwefan neu gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â nhw yn yr Eisteddfod.

Chwarae Cymru

Os gallwch weld eich hun yn gweithio yn y sector chwarae, neu eisiau mwy o wybodaeth am y gwahanol rolau yn y sector chwarae yna ewch i Chwarae Cymru – yr elusen genedlaethol sy’n hyrwyddo chwarae plant. I ddathlu Diwrnod Chwarae maent yn hyrwyddo digwyddiadau sy’n digwydd ledled Cymru ar eu gwefan Plentyndod Chwareus Cymru a’u tudalen Facebook.

Mae llawer yn digwydd ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at yr Eisteddfod eleni. Sicrhewch y newyddion diweddaraf gan Gofalwn Cymru ar faes yr Eisteddfod drwy ddefnyddio’r hashnod #mwynageiriau:

Facebook: @GofalwnCymru / @WeCareWales

X: @GofalwnCymru / @WeCareWales

Instagram: @gofalwncymrucares

LinkedIn: @gofalwn-cymru-wecare-wales/

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.