Neidio i'r prif gynnwys
Gofal plant

05 Awst 2024

Ymgyrch Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar

Two children playing in a colourful play tunnel with only their feet visible

Ymgyrch Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar

Rhwng 5 Awst a 25 Awst, mae Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar Ofal Plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar. Byddwn yn rhannu straeon ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, yn dysgu am yr amrywiaeth o rolau sydd ar gael, yn edrych ar ba werthoedd a rhinweddau sydd eu hangen arnoch i weithio yn y sector ac yn eich helpu chi

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal ac eisiau gwybod mwy am weithio ym maes gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar neu'r cyfleoedd sydd ar gael, dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ewch i'n tudalennau gweithio ym maes gofal plant.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Ar ddechrau ein hymgyrch, ar 6 Awst byddwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn noddi’r diwrnod am yr ail flwyddyn yn olynol gyda’n Diwrnod Gofal. Diwrnod sy’n dathlu ein siaradwyr Cymraeg a gobeithio denu mwy o siaradwyr Cymraeg o bob lefel i ystyried gyrfa mewn gofal.

Mae gennym ni ddiwrnod cyffrous wedi'i gynllunio a gallwch ddarllen mwy am ein Diwrnod Gofal yma.

Mae cymaint yn digwydd yn yr Eisteddfod eleni sy’n cysylltu â’n hymgyrch gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar. Mae’n wych gweld cymaint o’n partneriaid yn cael eu cynrychioli yn yr Eisteddfod yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n dathlu’r sector ac yn rhan annatod o gymdeithas ac yn arddangos y gwaith y maent yn ei wneud.

Mae Mudiad Meithrin, mudiad sy’n frwd dros gynnig addysg Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru, yn cynnal ‘Parêd Ponty’ gyda Martyn Geraint yn arwain yr orymdaith am 12 o’r gloch ddydd Sul 4 Awst. Bydd yr orymdaith yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ddathliad o addysg cyfrwng Cymraeg mewn Cylchoedd Meithrin yn Rhondda Cynon Taf. Bydd yr orymdaith yn gorffen wrth Lwyfan y Maes lle bydd y diddanwr plant poblogaidd Martyn Geraint yn cyflwyno sioe i ddiddanu’r plant bach a’u teuluoedd. Gallwch ddarllen mwy am yr orymdaith yma

Gallwch hefyd ddod o hyd i Fudiad Meithrin ar stondin #710-712 drwy'r wythnos.

Clybiau Plant Cymru logo

Mae ein partneriaid hefyd yn mynd i fod yn dathlu gyda ni dros y tair wythnos nesaf. Mae Clybiau Plant Cymru yn cynnig nifer o gyrsiau hyfforddi gwych wedi’u hariannu’n llawn ar gael o Ddyfarniad Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae ymarferol, Dyfarniad Cwrs Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae a hefyd sesiynau ymwybyddiaeth meddwlgarwch a llesiant yn benodol ar gyfer y sector. Dilynwch Clybiau Plant Cymru ar gyfryngau cymdeithasol am yr holl fanylion.

Logo Pacey

Mae PACEY, y gymdeithas broffesiynol ar gyfer gofal plant yn y blynyddoedd cynnar, hefyd yn dathlu ein hymgyrch, Diwrnod Chwarae a hefyd eu Digwyddiad Dathlu eu hunain sy'n anelu at ddathlu llwyddiannau aelodau PACEY dros y 12 mis diwethaf. Cynhelir y digwyddiad yn Venue Cymru, Llandudno ar 5 Hydref. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiad, dilynwch dudalen facebook PACEY.

Mae Chware Cymru hefyd yn dathlu gyda ni. Os gallwch weld eich hun yn gweithio yn y sector chwarae, neu eisiau mwy o wybodaeth am y gwahanol rolau yn y sector chwarae yna ewch i Chwarae Cymru – yr elusen genedlaethol sy’n hyrwyddo chwarae plant. I ddathlu Diwrnod Chwarae maent yn hyrwyddo digwyddiadau sy’n digwydd ledled Cymru ar eu gwefan Plentyndod Chwareus Cymru a’u tudalen Facebook.

Diwrnod Chwarae #DiwrnodChwarae2024

Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae, sy’n cael ei ddathlu bob blwyddyn ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Awst – eleni ar 7 Awst.

Yn ddiweddar cawsom y fraint, a llawer o hwyl yn gyda Phrosiect Datblygu Cymunedol Llanharan yn Rhondda Cynon Taf i ddeall mwy am yr hyn y mae chwarae yn ei olygu iddyn nhw a phwysigrwydd cynnal eu sesiynau chwarae mynediad agored yn y gymuned. Gallwch ddilyn eu tudalen Facebook i glywed sut y byddant yn dathlu Diwrnod Chwarae eleni.

Mae'n bleser gennym rannu'r astudiaeth achos newydd hon gyda chi ar gyfer yr ymgyrch hon.

Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli?

P'un a ydych chi'n gallu gweld eich hun yn gweithio mewn cylch chwarae neu Gylch Meithrin, yn eich cartref eich hun neu mewn crèche mae yna amrywiaeth o rolau y gallwch chi eu gwneud.

Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, os ydych am gael rhagflas neu gyflwyniad i ofal plant, gallwch gofrestru ar gyfer ein cwrs hyfforddi ar-lein rhad ac am ddim.


Eich taith i ofal plant

Mae bod yn rhan o ddatblygiad plentyn, ei weld wrth chwarae a'i helpu i archwilio'r byd yn waith gwerth chweil. P'un a ydych am arwain tîm neu weithio i chi'ch hun gartref, mae rôl i chi.

Cyflwyniad i ofal plant

Rhaglen hyfforddiant am un ddiwrnod am ddim i bobl sy'n byw yng Nghymru sy'n cynnwys yr hanfodion sydd eu hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal plant.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.