Cyflwyniad i ddementia
Cyflwyniad i ddementia
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod Gofalwn Cymru, am y tro cyntaf, yn lansio sesiynau dysgu penodol ar ddementia.
Mae'r sesiynau yn ddwy awr o hyd a byddant yn cael eu cynnal ar-lein. Maent wedi'u hanelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddementia. Gallai hyn gynnwys gofalwyr di-dâl, staff gofal a chymorth, gwirfoddolwyr neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector.
Bydd y cwrs yn cynnwys:
- Beth yw dementia?
- Symptomau
- Mathau cyffredin
- Ffactorau risg
- Ymagwedd yn seiliedig ar gryfderau
… a llawer mwy, gan gynnwys darllen pellach.
Bydd y sesiwn gyntaf ar: 18 Medi a gallwch gofrestru yma
Os oes gennych gwestiynau am ein rhaglenni uchod neu os oes gennych ddiddordeb mewn rhaglen benodol neu raglen grŵp cymunedol, cysylltwch â ni: