Diwrnod Rhyngwladol Gwaith Cymdeithasol 2019
Diwrnod i holl weithwyr cymdeithasol ymuno a’i gilydd i ddathlu llwyddiannau’r proffesiwn yw Diwrnod Rhyngwladol Gwaith Cymdeithasol. Mae Diwrnod Rhyngwladol Gwaith Cymdeithasol 2019 yn canolbwyntio ar annog perthnasoedd rhwng unigolion, a pwy well i ofyn i na cefnogwraig ein ymgyrch, Amy Davies?
Fe wnaeth Amy gymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol oherwydd ei bod eisiau gwneud gwahaniaeth i berthnasau teuluoedd. Mae hi nawr yn gweithio gyda theuluoedd bregus i ymdopi gyda materion gwahanol.
Mae annog perthnasau a grymuso unigolion yn allweddol i weithio fel gweithiwr cymdeithasol.
Fe wnaethom ofyn i Amy am ei gwaith fel gweithiwr cymdeithasol:
Cwestiwn 1: Beth rwyt ti’n ei garu am dy swydd?
“Dwi’n frwd iawn dros adeiladu perthnasau a dwi’n gweithio’n galed i sicrhau bod teuluoedd yn aros gyda’i gilydd, hyd yn oed os yw hynny’n golygu ein bod yn gorfod wynebu anawsterau gyda’n gilydd. Dyna beth rwy’n ei garu.”
Cwestiwn 2: Wyt ti’n wynebu unrhyw heriau?
“Mae rhai teuluoedd yn gallu bod yn anodd weithiau, ac mae’n rhaid adeiladu ffydd fel eu bod nhw’n fodlon gweithio’n galed gyda chi.”
Cwestiwn 3: Pa fath o berson sydd ei angen i fod yn weithiwr cymdeithasol?
“Mae’n rhaid i chi allu gweld yr ochr ddoniol, oherwydd heb hynny ni fyddwch yn gallu cysylltu â’r bobl rydych chi’n eu cefnogi.”
Ydych chi’n barod am yr her o fod yn weithiwr cymdeithasol?
I ddarganfod mwy am fod yn weithiwr cymdeithasol gallwch ymweld a’n tudalen gweithiwr cymdeithasol, neu cysylltu a chyflogwr yn eich ardal.