Wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant 2025
Rhwng 10 a 14 Tachwedd bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal digwyddiadau ar-lein a'n rhannu arfer da i ddathlu ein hwythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant cyntaf erioed.
Beth sy'n digwydd yn ystod wythnos ddysgu?
Bydd cyfres o ddigwyddiadau ar-lein, trwy Microsoft Teams. Mae'r rhain yn rhad ac am ddim i'w mynychu ac maen nhw ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Byddwn ni'n ymdrin ag ystod o bynciau, sy'n canolbwyntio ar ein tair prif thema:
- llesiant ac arweinyddiaeth dosturiol yn y gweithle
- tegwch, iaith a hunaniaeth
- twf proffesiynol.
Ar gyfer pwy mae'r wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant?
Mae'r wythnos dysgu blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gyfer unrhywun sydd â diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae hyn yn cynnwys:
- rheolwyr
- ymarferyddion
- tiwtoriaid/aseswyr
- dysgwyr
- llunwyr polisi
- arolygwyr
- sefydliadau partner.
Yr digwyddiadau ar-lein
Dydd Llun 10 Tachwedd
- Ymgyrch symudiad 10am i 11am - siaradwr Leo Holmes, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru.
- Cymraeg o gwmpas - Addewid Cymru a throchi effeithiol 2pm i 3pm - siaradwr L ou Stevens Jones yw rheolwr cenedlaethol ‘Croesi’r Bont’, cynllun trochi iaith Mudiad Meithrin a Sian James, Swyddog Arweiniol Cymraeg Datblygu Busnes Gofal Plant ar gyfer Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Dydd Mawrth, 11 Tachwedd
- O werthoedd i effaith: Ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant 10am i 11am- siaradwr Jay Goulding, Gofal Cymdeithasol Cymru
- Ymddygiadau craidd – arweinyddiaeth dosturiol 2pm i 3pm - siaradwr Bex Steen, Swyddog Datblygu Arweinyddiaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru
Dydd Mercher, 12 Tachwedd
- Gyrfaoedd mewn gofal plant blynyddoedd cynnar 1pm i 2pm - siaradwyr Sam Greatbanks, Swyddog Ymgysylltu a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru a Sam Thomas, Swyddog Arweiniol Ymgysylltu a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru
- Gwrth-hiliaeth ac amrywiaeth yn y blynyddoedd cynnar 6pm i 7pm - siaradwyr Sarah Sharp, Warchodwr Plant ymroddedig sydd wedi'i lleoli ym Mro Morgannwg a Dawn Bunn, Rheolwr Hyfforddiant Cenedlaethol, Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs
Dydd Iau, 13 Tachwedd
- "Pan nad yw'n teimlo'n iawn: deall anaf moesol yn y blynyddoedd cynnar" 10am i 11am- siaradwr Kat Applewhite, Prif Swyddog Gweithredol Here2There
- Caniatâd i flaenoriaethu eich hun – pecyn cymorth iechyd meddwl i bobl sy'n gweithio mewn blynyddoedd cynnar a gofal plant 2pm i 3pm- siaradwyr Kate Newman, Rheolwr Llesiant y Gweithlu, Gofal Cymdeithasol Cymru a Leo Holmes, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru
Dydd Gwener, 14 Tachwedd
- Adnodd sgiliau ymchwil, arloesi a gwella 10am i 11am - siaradwyr Dr Kate Howson, Rheolwr Partneriaethau Ymchwil, Gofal Cymdeithasol Cymru a Alison Kulkowski, Rheolwr Partneriaethau Arloesi, Gofal Cymdeithasol Cymru
Gwybodaeth ychwanegol am y digwyddiadau
Mwy o erthyglau newyddion
Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.