Ffordd i Waith: Sesiwn Gwybodaeth ar gyfer cyflogwyr
Mae Ffordd i Waith yn bartneriaeth newydd rhwng y llywodraeth a chyflogwyr i gael 500,000 o geiswyr gwaith i mewn i waith erbyn diwedd mis Mehefin 2022.
Bydd y bartneriaeth hon yn helpu i lenwi’r niferoedd uchaf erioed o swyddi gwag, gan gefnogi pobl sy’n barod am swydd i mewn i’r farchnad lafur a’u helpu i symud ymlaen i yrfa.
Os ydych yn gyflogwr sy’n chwilio am ffordd i gael y person iawn i helpu eu busnes, gall y Ganolfan Byd Gwaith a Ffordd i Waith helpu.
Sut gall Ffordd i Waith helpu?
Mae Ffordd i Waith yn ymgyrch genedlaethol i helpu hyd yn oed mwy o bobl i fanteisio ar y nifer uchaf erioed o swyddi gwag sydd ar gael yn y farchnad swyddi, gan gynnwys llawer o sectorau sy’n hanfodol i’n hadferiad cenedlaethol.
Mae gennym filoedd o bobl ar Gredyd Cynhwysol sydd wrthi’n ceisio dechrau o’r newydd mewn gwaith. Mae hyn yn golygu bod llawer o bobl dalentog, barod am waith sy’n awyddus i ymgymryd â’ch rolau.
Os ydych yn bwriadu llenwi swydd wag, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig ymgynghorydd cyflogwyr penodol i chi yn eich canolfan gwaith leol, neu reolwr cyfrif cenedlaethol penodedig os ydych yn gyflogwr cenedlaethol.
Nid yw Ffordd i Waith yn gynllun sy’n cynnig cyllid gan y llywodraeth fel y Cynllun Kickstart, fodd bynnag bydd yn eich cefnogi ymhellach gyda’ch recriwtio parhaus. Mae DWP eisiau trafod â chi’r ystod o wasanaethau recriwtio a chyngor ac arweiniad y gall DWP eu cynnig.
Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith amrywiaeth o wasanaethau recriwtio a all eich helpu, gan gynnwys:
- y cyfle i gael eu cyflwyno i bobl sy’n chwilio am waith drwy amrywiaeth o lwyfannau, gan gynnwys diwrnodau recriwtio a digwyddiadau eraill
- gweithio’n agos gyda chi i symleiddio a byrhau’r broses recriwtio, fel y gallwn gynnig ymgeiswyr sy’n cyfateb yn well i gyfweliad
- helpu i sefydlu treialon gwaith i roi’r cyfle i chi weld beth sydd gan ddarpar recriwtiaid i’w gynnig
- cyngor ar gynnig profiad gwaith a phrentisiaethau
- cymorth gan gynlluniau cyflogaeth eraill gan gynnwys Rhaglenni Academi Gwaith Seiliedig ar Waith a mentora busnes
- cymorth os ydych yn cyflogi rhywun sydd ag anabledd (Mynediad at Waith)
- cyngor ac arweiniad ar gyflogi rhywun sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd
Pryd?
Dydd Iau 7 Ebrill 2022 10.30am – 12.00pm
Sut rwyf yn cofrestru i fynychu?
Archebwch eich lle am ddim yn ein Sesiwn Gwybodaeth i Gyflogwyr sydd ar ddod trwy glicio yma
Ceir rhagor o wybodaeth am Ffordd i Waith yma