Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion

Rhwng 18 Tachwedd a 8 Rhagfyr, mae Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar waith gofal cartref a ailalluogi

Mwy yma

Gofal cymdeithasol

03 Ebrill 2023

Ganolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe

Swanseas african community centre Logo

Rhaglen arobryn yn helpu 35 aelod o Ganolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe i gael swyddi ym maes gofal

Mae mwy na 70 aelod o Ganolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe wedi cwblhau rhaglen arobryn Gofalwn Cymru, Cyflwyniad i ofal cymdeithasol, sy’n helpu i’w rhoi ar y llwybr i yrfa ym maes gofal. Ers hynny, mae 35 ohonynt wedi mynd ymlaen i weithio ym maes gofal cymdeithasol.

Cwblhaodd tri grŵp o Ganolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe y rhaglen ar-lein dros gyfnod o dridiau yn 2022. Buont yn dysgu am weithio ym maes gofal cymdeithasol, pa rolau sydd ar gael a’r cyfrifoldebau sy’n dod gyda nhw.

Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Gofalwn Cymru, Canolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe a Gweithio Abertawe, ac mae’n gam pwysig i sicrhau bod y gweithlu gofal cymdeithasol yn cynrychioli’r cymunedau maen nhw’n gweithio ynddynt. Mae hefyd yn ceisio dod â mwy o brofiad ac amrywiaeth i’r gweithlu.

Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn rhaglen y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yn cael mentor i helpu i’w paratoi am swyddi, os ydynt yn penderfynu dechrau gyrfa ym maes gofal cymdeithasol. Mae rôl y mentor yn cynnwys rhannu sgiliau cyfweld a thrafod pa gymwysterau y gallai fod eu hangen.

Cyfle i ffynnu

Mae Gofalwn Cymru yn ceisio chwalu rhwystrau sy’n ei gwneud hi’n anodd i bobl gael swyddi ym maes gofal cymdeithasol.

Mae ein rhaglen lwyddiannus, Cyflwyniad i ofal cymdeithasol, yn dangos i bobl y gallai gweithio ym maes gofal cymdeithasol fod yn ddewis da. Mae’n rhoi cyfle iddynt ffynnu mewn gyrfa efallai nad ydynt wedi’i hystyried cyn hynny.
Sam Thomas, Arweinydd Ymgysylltu a Datblygu Gofalwn Cymru

Gall unrhyw un sy’n cwblhau’r rhaglenni Cyflwyniad i ofal cymdeithasol ddangos eu tystysgrifau cwblhau i gyflogwyr gofal cymdeithasol fel rhan o gynllun cyfweliad gwarantedig GofalwnCymru i’w helpu i ddod o hyd i waith. Mae hyn yn dangos i gyflogwyr bod yr ymgeiswyr hyn yn ymroddedig ac yn gwybod beth i’w ddisgwyl o’r swydd.

Yn dilyn llwyddiant y tri grŵp cyntaf, bydd y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd a GofalwnCymru yn cynnal rhaglen Cyflwyniad i ofal plant a rhagor o hyfforddiant Cyflwyniad i ofal cymdeithasol yn ddiweddarach eleni.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.