Ymgeisiwch ar gyfer Gwobrau 2026!

Ydych chi wedi gwneud rhywbeth unigryw neu arloesol sydd wedi gwneud gwahaniaeth i'r bobl rydych chi’n eu cefnogi neu’ch gweithlu?
Neu, ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y sector gofal, ac sy’n haeddu cael ei cydnabod am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud? Os felly, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn croesawu ceisiadau ac enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2026, y gwobrau blynyddol sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu’r gwaith arbennig sy’n cael ei wneud ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Felly, os ydych chi’n dîm, yn grŵp, neu’n fudiad yn y sector cyhoeddus, y sector preifat, y sector gwirfoddol neu’r sector cydweithredol yng Nghymru, rhowch wybod i ni am eich llwyddiannau i gael y cyfle i ennill gwobr nodedig.
Rydyn ni hefyd yn awyddus i ddathlu unigolion sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, ac sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy’r gofal a’r cymorth maen nhw’n eu darparu.
Rydyn ni’n gofyn i gydweithwyr, cyflogwyr, pobl sy’n derbyn gofal a chymorth neu eu gofalwyr, eu teulu a’u ffrindiau i enwebu unrhyw weithwyr neu wirfoddolwyr yr hoffen nhw gael eu cydnabod gyda Gwobr.
Categorïau
Dyma’r categorïau ar gyfer grwpiau, prosiectau a sefydliadau:
- Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
- Defnydd effeithiol o ddigidol a thechnoleg
- Ffyrdd arloesol o recriwtio a chadw’r gweithlu
- Cefnogi pobl i fyw’r bywyd sy’n bwysig iddyn nhw.
Dyma’r categorïau ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr:
- Gwobr arweinyddiaeth ysbrydoledig
- Gwobr dysgwr y flwyddyn
- Gwobr Gofalwn Cymru.
Gwobr Gofalwn Cymru y llynedd
Enillydd y flwyddyn diwethaf oedd Sarah Sharpe, Gofalwr Plant Cofrestredig ymroddedig yn Poppins Daycare yn Nyffryn Morgannwg. Fe’i henwebwyd gan y gofalwr plant Lee Walker-Metzelaar.
Mae angerdd ac ymroddiad Sarah yn disgleirio yn ei gwaith fel gofalwr plant. Dywed Lee fod gan Sarah “amynedd di-ben-draw” dros y plant mae hi’n gofalu amdanynt.
Os yw hyn yn swnio fel un o’ch cydweithwyr neu weithwyr, peidiwch ag anghofio enwebu.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ac enwebiadau yw 5pm, 10 Tachwedd 2025.