Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

09 Mehefin 2023

Mae’r enwebiadau nawr ar agor ar gyfer gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2023

Caring in Welsh award graphic

Dechrau chwilio am weithwyr sy’n darparu gofal a chymorth rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Eleni, rydyn ni'n noddi’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg. Mae'r wobr yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n agored i unrhyw weithwyr gofal cyflogedig sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar neu ofal plant yng Nghymru sy’n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn hyn, rydyn ni’n gwahodd aelodau o'r cyhoedd, cyflogwyr a phobl sy’n gweithio yn y maes gofal i enwebu gweithiwr ar gyfer y wobr hon.

Gall y gweithiwr fod yn siarad Cymraeg yn rhugl, yn siarad ychydig o’r iaith neu’n dysgu, cyn belled â’i fod yn defnyddio'r iaith wrth ddarparu gofal a chymorth.

Bydd y bobl a gyrhaeddodd y rownd derfynol, yn ogystal â’u henwebwyr, yn cael eu gwahodd i ddod i ddigwyddiad i ddathlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen Llŷn ar 10 Awst.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “I bobl sy’n dewis siarad Cymraeg, mae cael gofal a chymorth gan rywun sy’n siarad eu hiaith yn rhan bwysig o gael gofal o ansawdd da, sy'n llawn urddas.

“Gobeithio y bydd y wobr hon yn rhoi cydnabyddiaeth i’r gweithwyr sy’n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r angen am fwy o bobl sy’n gallu siarad yr iaith i weithio yn y maes gofal.”

Os hoffech chi enwebu gweithiwr, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi ffurflen enwebu, a dweud pam mae’r gweithiwr yn haeddu cael ei gydnabod, yn ogystal â’r gwahaniaeth mae’r gweithiwr yn ei wneud i fywydau’r bobl mae’n eu cefnogi drwy ddefnyddio’r Gymraeg.

Bydd angen i chi wneud yn siŵr bod y gweithiwr yn fodlon cael ei enwebu cyn anfon eich cais atom oherwydd os caiff ei ddewis fel un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, byddwn ni’n defnyddio ei stori i roi cyhoeddusrwydd i’r wobr a hyrwyddo’r pwysigrwydd o ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

10am ar 26 Mehefin 2023 yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau.

Mwy o wybodaeth am y wobr Gofalu trwy'r Gymraeg 2023 a sut i enwebu gweithwyr.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.