Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

07 Mawrth 2023

Gwahodd gweithwyr cymdeithasol i ddigwyddiadau recriwtio Powys

Powys council logo

Os ydych chi’n chwilio am gyfle newydd ym maes gwaith cymdeithasol, mae cyfleoedd gwych ar gael gyda Chyngor Sir Powys.

Mae gwahoddiad i weithwyr cymdeithasol ddod i ddigwyddiadau recriwtio i ddysgu rhagor am y cyfleoedd swyddi sydd ar gael yn y gwasanaethau plant ac oedolion.

Mae buddion gwych yn gysylltiedig â gweithio i Gyngor Sir Powys, megis llwythi achos rheoladwy, trefniadau gweithio hyblyg, cymorth busnes dynodedig, pecyn adleoli o hyd at £8,000, a thaliad atodol ar sail y farchnad ar gyfer rhai swyddi penodol.

Ewch i ddysgu mwy mewn un o’r digwyddiadau recriwtio, rhwng 4pm – 7pm yn:

  • The Holiday Inn, Yr Amwythig ar ddydd Mawrth 21 Mawrth (SY2 6LG)
  • Lion Quays, Croesoswallt ar ddydd Llun 27 Mawrth (SY11 3EN)
  • Gwesty’r Bear, Crughywel ar ddydd Mawrth 28 Mawrth (NP8 1BW)
  • Nant Ddu Lodge, Cwm Taf, ar ddydd Mercher 29 Mawrth (CF48 2HY)

Bydd yn gyfle delfrydol i gwrdd â’r staff cyfeillgar a chael mwy o fanylion am y swyddi sydd ar gael ym maes gwaith cymdeithasol gyda’r timau gofal a chymorth, asesu, gofal trwodd 0 -14, iechyd meddwl a rhyddhau cleifion o’r ysbyty.

Os ydych chi’n credu yng ngrym gwaith cymdeithasol i newid pethau er gwell, siaradwch â ni. Rydyn ni’n arloesol, yn gydweithredol a gyda ffocws ac yn credu y dylai pobl dderbyn cymorth i fyw’r bywyd y maen nhw eisiau byw, ymhle y maen nhw eisiau ei fyw, gyda’r bobl y maen nhw eisiau byw. Byddwch yn derbyn y cymorth angenrheidiol i wneud eich dewis swydd, ynghyd â goruchwyliaeth reolaidd, ar y cyd â chyfleoedd hyfforddi a datblygu rhagorol.
Cynghorydd Sian Cox, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar
Mae Powys yn lle gwych i weithio; sir wledig yw gyda threfi marchnad bywiog. Cynigir cyfleoedd gweithio hyblyg, felly byddwch yn gallu gweithio o leoliad sy’n addas ichi a’ch anghenion busnes. Gall hyn olygu gweithio o gartref, ein swyddfeydd neu adeiladau cymunedol yn agos at eich cartref. Felly os oes gennych ddiddordeb mewn swydd newydd ym maes gwaith cymdeithasol, edrychwn ymlaen at eich gweld mewn un o’r digwyddiadau a chlywed mwy ynghylch pam mae’n lle gwych i weithio.
Cynghorydd Susan McNicholas, Aelod y Cabinet ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

Ewch â’ch CV gyda chi a gallwch cael eich paru gyda’r swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd a rhai’r dyfodol.

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau, ewch i, https://cy.powys.gov.uk/DigwyddiadRecriwtioPowys neu cymerwch gip ar ein swyddi gwag yma: https://cy.powys.gov.uk/swyddi

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.