Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

19 Rhagfyr 2023

Gwirfoddoli i gefnogi llwybrau gyrfa gofal cymdeithasol

Person, in an orange ski jacket, on skis pushing another person, in a mobility ski, down a dry ski slope

Gweminar am ddim i fudiadau sydd am ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli a allai gefnogi taith rhywun i yrfa gofal cymdeithasol.

Gall gwirfoddoli roi’r profiad a’r hyder sydd eu hangen ar bobl i ddilyn gyrfa yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. A allwch chi gefnogi pobl ar eu taith? Os felly, efallai yr hoffech ymuno â’n gweminar ar ddydd Llun 29 Ionawr 2024, 12 – 1.pm.

Cefndir y weminar

Ni'n cynnig rhaglen ar-lein reolaidd, tri diwrnod o hyd ac am ddim o’r enw Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol. Mae ar agor i unrhyw un dros 18 oed sy’n byw yng Nghymru. Ar ôl cwblhau’r rhaglen, mae’r llwybrau yn cynnwys: cyflogaeth, addysg a gwirfoddoli.

Mae gwirfoddoli yn gyfle i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol a meithrin profiad a sgiliau. Ar y llaw arall, gall gwirfoddolwyr presennol gyda mudiadau gofal cymdeithasol gofrestru ar gyfer y rhaglen i ehangu eu gwybodaeth ac efallai chwilio am waith yn y maes gofal cymdeithasol.

Nodau'r sesiwn

Bydd y sesiwn wybodaeth hon yn amlygu pwysigrwydd gwirfoddoli i alluogi unigolion i ddatblygu eu diddordebau a’u profiad yn y sector.

Bydd yn amlinellu’r rhaglen Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol ac yn codi ymwybyddiaeth o’r hyn y gall y rheini sydd wedi cwblhau’r cwrs ei gynnig i fudiad y gallent ddewis gwirfoddoli iddo.

Bydd yn trafod yr hyn y gall mudiadau ei gynnig i gyfranogwyr sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli.

Pwy ddylai ddod?

Anogir mudiadau i fynychu’r gweminar sy’n gallu cynnig lleoliadau gwirfoddoli i unigolion sy’n chwilio am brofiad yn y maes gofal cymdeithasol. Gall y rhain fod yn gyfleoedd tymor byr neu’n fwy hirdymor, mewn un lleoliad neu fwy, ac yn gweithio gydag un grŵp cleientiaid neu fwy. Bydd angen i bolisïau a strwythurau cefnogi priodol fod ar waith.

Anogir staff canolfannau gwirfoddoli’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) i fynychu. Mae ganddyn nhw’r rôl allweddol o gynghori a chefnogi unigolion i gael cyfleoedd gwirfoddoli sy’n berthnasol i’w diddordebau a’u hanghenion a gallant hefyd nodi ac annog mudiadau i ddatblygu eu cynnig gwirfoddoli.

Byddai hefyd o ddiddordeb i hyfforddwyr gwaith cyflogadwyedd sy’n atgyfeirio unigolion i’r rhaglen ac i gysylltwyr gyrfaoedd gofal rhanbarthol.

Trefnir y sesiwn gan Helplu Cymru  yn CGGC a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gallwch gadw lle ar y digwyddiad hon neu anfonw e-bost at fliddell@wcva.cymru os oes gennych chi unrhyw ymholiadau.

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.