Gwirfoddoli mewn cartrefi gofal
Sut gall gwirfoddolwyr ychwanegu at ansawdd bywyd preswylwyr a theuluoedd, yn ogystal â chefnogi staff cartrefi gofal?
Mae cartrefi gofal yng Nghymru wedi bod yn gweithredu o dan bwysau aruthrol, oherwydd cyfyngiadau sy’n ymwneud â Covid, gydag ychydig iawn o adnoddau, staffio annigonol, cyfyngu ymweliadau a mwy o achosion o salwch a marwolaethau.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae dau brosiect peilot wedi bod yn datblygu gwirfoddoli mewn cartrefi gofal, gyda’r nod o ddarparu cymorth yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.
Gwnaeth Age Cymru weithio gyda saith cartref gofal ledled Cymru i ddatblygu gwirfoddoli, gyda’r bwriad penodol cychwynnol o alluogi ymweliadau yn ystod pandemig Covid.
Gwnaeth Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC) weithio gydag adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint i recriwtio a chysylltu gwirfoddolwyr â chartrefi gofal ar hyd a lled y sir.
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CgGC) yn cynnal digwyddiad “Gwirfoddoli mewn cartrefi gofal – heriau a phosibiliadau” ar 26 Ionawr rhwng 2-3:30pm i rannu:
- Sut y daeth y prosiectau hyn i fod
- Yr heriau y gwnaethant eu hwynebu
- Yr hyn sydd wedi’i ddysgu a pha adnoddau y gellir eu rhannu
- Y cyfleoedd a’r potensial i ddatblygu gwirfoddoli’n fwy eang o fewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Dewch a’ch profiadau a’ch mewnwelediadau eich hun i gyfrannu at y drafodaeth bwysig hon, cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.