Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

24 Hydref 2023

Gwiriwr lefel iaith Cymraeg ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol

Glan Rhos

Gall gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru bellach ddefnyddio rhaglen ar-lein am ddim i asesu eu sgiliau Cymraeg. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu ‘Gwiriwr Lefel’ ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.

Mae’r Gwiriwr Lefel yn asesiad ar-lein i’ch helpu i ddarganfod lefel eich Cymraeg o ran sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Rydych chi'n cwblhau cyfres o asesiadau ar-lein, ac mae eich canlyniadau yn nodi lefel eich Cymraeg - o lefel mynediad hyd at hyfedredd.

Gall unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ddefnyddio’r Gwiriwr Lefel i asesu eu gallu yn y Gymraeg. Mae am ddim i’w ddefnyddio ac ar gael ar ffonau symudol, tabledi a chyfrifiaduron.

Mae’r Gwiriwr Lefel yn adnodd gwych i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddarganfod pa allu Cymraeg sydd ganddyn nhw. Mae llawer o bobl yn deall mwy o Gymraeg nag y maent yn sylweddoli, felly efallai y bydd y canlyniadau yn rhoi hwb i hyder rhai gweithwyr.

Ar ôl cwblhau’r asesiad, y cam nesaf i rywun sydd â diddordeb mewn gloywi eu Cymraeg yw cofrestru ar un o’n cyrsiau Camau. Mae’r rhain wedi eu creu yn arbennig ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, maent yn rhad ac am ddim ac yn cynnig dysgu hyblyg ar-lein.
Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Mae'r Gwiriwr Lefel ar gael yma.

Gallwch ddarganfod mwy am ein cyrsiau Camau ar wefan Dysgu Cymraeg. Mae dau gwrs gwahanol ar gael, ar gyfer gogledd a de Cymru.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.