Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Sylwch y bydd ein swyddfa ar gau o ddydd Gwener 20 Rhagfyr tan ddydd Llun 6 Ionawr.

Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwn yn gallu delio ag unrhyw ymholiadau. Diolch am eich dealltwriaeth.

Cyffredinol

03 Ebrill 2023

Gwobrau Gofal Prydain Fawr

WeCare team at the Great British Care Awards

Gofalwn Cymru yn ennill gwobr datblygu'r gweithlu rhanbarthol yng Ngwobrau Gofal Prydain Fawr

Mae tîm 'Cyflwyniad i ofal cymdeithasol' Gofalwn Cymru wedi ennill gwobr datblygu'r gweithlu yn rownd ranbarthol Gwobrau Gofal Prydain Fawr.

Cafodd y tîm ei enwebu oherwydd ei raglen lwyddiannus yn cynnig hyfforddiant i bobl sy'n ystyried dechrau gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.

Mae cyflwyniad i ofal cymdeithasol yn rhaglen hyfforddi ar-lein am ddim i unrhyw un dros 18 oed sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.

Mae'n trafod yr hanfodion sydd eu hangen i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol, fel cyfathrebu, cadw pobl yn ddiogel ac arferion gwaith.

Mae ennill y wobr hon wedi rhoi hwb mawr i'n tîm 'Cyflwyniad i ofal cymdeithasol'.

Rydyn ni eisiau rhoi'r cyfle i gymaint o bobl â phosib weithio ym maes gofal cymdeithasol, sy'n yrfa mor werth chweil.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r tîm wedi helpu dros 500 o bobl i gael hyfforddiant sylfaenol mewn gofal cymdeithasol i roi cychwyn i’w gyrfaoedd.

Mae'r wobr hon yn amlygu pa mor galed y mae'r tîm wedi gweithio i wireddu hynny.
Sam Thomas, Arweinydd Ymgysylltu a Datblygu Gofalwn Cymru

Nod Gwobrau Gofal Prydain Fawr yw codi proffil gofal cymdeithasol drwy dynnu sylw at y bobl sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Drwy seremonïau rhanbarthol, mae'r gwobrau’n dathlu rhagoriaeth ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Ar ôl cyrraedd y rownd derfynol ranbarthol, bydd y tîm 'Cyflwyniad i ofal cymdeithasol' yn cael gwybod a ydyn nhw wedi ennill gwobr genedlaethol datblygu'r gweithlu yn y rownd derfynol yn Birmingham fis nesaf.

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.