Mae Gofalwn Cymru ar y Rhestr Fer am Wobr Hyrwyddwr Gorau'r Gymraeg yn y Gweithle
Mae’n bleser gan Gofalwn Cymru gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle yn y Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr, a gynhelir gan Gyrfa Cymru. Mae’r enwebiad hwn yn gydnabyddiaeth arwyddocaol o’n hymdrechion parhaus i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn ein sefydliad a’r sector gofal yng Nghymru.
Mae gwobr Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle yn dathlu busnesau sydd wedi dangos ymrwymiad eithriadol i integreiddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn eu gweithrediadau beunyddiol. Yn Gofalwn Cymru, credwn fod y Gymraeg yn rhan annatod o’n treftadaeth ddiwylliannol ac yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu gwasanaethau gofal cynhwysol ac effeithiol.
Mae ein hymrwymiad i’r Gymraeg yn amlwg drwy gydol ein gwaith. Dyma rai o uchafbwyntiau ein mentrau:
Cyfathrebu Dwyieithog
Rydym yn sicrhau bod ein holl gyfathrebiadau, yn fewnol ac yn allanol, yn ddwyieithog gan ei fod yn ffordd wych o wneud gwasanaeth Cymraeg yn hygyrch i bawb. Mae'r arfer hwn yn cyd-fynd ag egwyddor y 'cynnig rhagweithiol', gan hyrwyddo cynhwysiant.
Hyfforddiant
Rydym yn cynnig rhaglenni hyfforddi yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan rymuso ein staff i ddefnyddio’r iaith a hybu ymwybyddiaeth yn eu rolau. Mae ein tîm hyfforddi’n gweithio’n galed i sicrhau bod yr hyfforddiant yn rhoi cipolwg i’r rhai sy’n mynychu o ba mor bwysig yw’r Gymraeg ledled Cymru ac o fewn gofal cymdeithasol.
Diwrnod Gofal
Yr haf hwn, fe wnaethom noddi Diwrnod Gofal yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr oedd yn canolbwyntio ar ddathlu siaradwyr Cymraeg, hybu’r Gymraeg a gobeithio denu mwy o siaradwyr Cymraeg o bob lefel i ystyried gyrfa mewn gofal.
Ymgyrch #DefnyddiaDyGymraeg
Fel rhan o’n hymgyrch, mae gennym ddyletswydd i godi ymwybyddiaeth am y defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith. Rydym yn darparu gwybodaeth ar sut y gall unigolion gael mynediad at adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu rolau. Yn ddiweddar buom yn cymryd rhan yn ymgyrch #DefnyddiaDyGymraeg, gan hybu’r Gymraeg ymhellach.Y Wobr
Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein tîm, sydd wedi cofleidio’r Gymraeg ac wedi hyrwyddo ei defnydd ym mhob agwedd o’n gwaith. Mae’n anrhydedd i ni gael ein cydnabod ochr yn ochr â sefydliadau uchel eu parch eraill sy’n rhannu ein hangerdd dros hyrwyddo’r Gymraeg.
Edrychwn ymlaen at y seremoni wobrwyo a dathlu'r cyflawniad hwn gyda'n tîm a'n partneriaid. Diolch i Gyrfa Cymru am gydnabod ein gwaith, ac i bawb sydd wedi ein cefnogi ar y daith hon. Gyda’n gilydd, rydym yn cael effaith gadarnhaol ar ddyfodol y Gymraeg yn y gweithle. Diolch yn fawr!
I gael rhagor o wybodaeth am ein mentrau a sut y gallwch chi gymryd rhan, ewch i'n tudalennau Cymraeg.