Menter Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi ennill gwobr genedlaethol fawreddog
Mae un o fentrau’r Cyngor Sir sy’n sicrhau bod plant mewn gofal Ynys Môn yn mwynhau profiadau bywyd cadarnhaol wedi ennill gwobr genedlaethol fawreddog.
Mae’r fenter Cartrefi Clyd wedi ennill Gwobr Plant Mewn Gofal, Gwobrau ‘Children and Young People Now 2022’ a hynny am ei lwyddiant wrth ofalu am blant o fewn cartrefi lle bydd y plant yn cael gofal a magwraeth.
Mae’r Wobr Plant Mewn Gofal yn cydnabod awdurdod lleol neu ddarparwr gofal sydd wedi gwneud fwyaf i wella canlyniadau ar gyfer plant neu bobl ifanc sy’n derbyn gofal boed hynny mewn gofal preswyl, gofal maeth neu leoliadau eraill.
Lansiwyd y fenter yn 2020 ac mae pob un o eiddo Cartrefi Clyd y Cyngor Sir yn darparu cartref ar gyfer hyd at dri o blant. Maent i gyd wedi eu staffio gan dimau bach o weithwyr gofal gan sicrhau parhad gofal i’r plant sy’n byw yno.
Mae’r fenter yn galluogi plant i gynnal perthnasau iach â’r rhai hynny sy’n bwysig iddynt ac i gefnogi eu teimlad o hunaniaeth.