Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

21 Chwefror 2022

Pam y dylech gynnig rhaglen brentisiaeth yn eich sefydliad.

Mae Gofalwn Cymru wedi bod yn siarad gyda chyflogwyr ledled Cymru er mwyn helpu i ddeall manteision recriwtio prentisiaid i’r sector.

Fel cyflogwr byddwch yn:

  • denu pobl ifanc brwdfrydig a’r rhai sy’n newid gyrfa
  • lleihau trosiant staff a gwella’r gyfradd gadw
  • helpu i gydbwyso gweithleoedd sy’n heneiddio
  • cynnig rhagor o gyfleoedd yn eich cwmni
  • darparu cyfleoedd i ddysgu
  • meithrin gwybodaeth, sgiliau a phrofiad pobl fel y gallant ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb
  • cyflogi mentor i gefnogi pobl wrth iddynt ddatblygu
  • meithrin a datblygu staff i dyfu o fewn gwerthoedd eich sefydliad
  • sicrhau bod y dysgwr yn cael amser gyda’i ddarparwr dysgu
  • adolygu ac arfarnu ei gynnydd gyda’r dysgwr
  • nodi cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen mewn gyrfa a chefnogi pobl i ddilyn y llwybrau hynny.

Am ragor o wybodaeth am gynnig prentisiaethau yn eich sefydliad, ewch i:

Read about Mudiad Meithrin’s apprenticeship programme
Delyth Evans

Mae Delyth Evans yn gyfrifol am dair o feithrinfeydd y Mudiad Meithrin ledled Cymru, gan gynnwys Llangefni, Aberystwyth a Phontypridd. Rhyngddyn nhw, mae’r meithrinfeydd hyn yn cyflogi oddeutu 80 aelod o staff a 400 o blant rhwng wyth wythnos oed a 12 oed sy’n derbyn gofal dydd llawn gan y gwasanaethau hyn.

 

Pam cynnig rhaglen brentisiaeth?

Mae’n anodd recriwtio staff newydd ac rydyn ni’n gwybod bod prinder staff ledled y sector sy’n ei gwneud hi hyd yn oed yn anoddach i ni fel Meithrinfa Gymraeg i recriwtio staff cymwys sy’n siarad Cymraeg.

Dechreuodd y cynllun prentisiaeth Mudiad Meithrin yn 2019. Mae’r prentisiaethau ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dechrau gyrfa ym maes gofal plant. Gobeithio y bydd y cyfle hwn yn denu pobl i’r sector, ynghyd â chadw myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn y sector cyfrwng Cymraeg.

 

Faint o brentisiaid sydd wedi cwblhau’r rhaglen?

Ar hyn o bryd mae gennym bedwar myfyriwr rhwng 18 a 45 oed sy’n gweithio gyda ni yn ein meithrinfeydd dydd Cymraeg. Maen nhw i gyd yn cyflawni eu hastudiaethau Lefel 3 ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Rydyn ni eisoes wedi cynnig swyddi llawn amser i dri o’n pedwar prentis ar ôl iddyn nhw gymhwyso.

Gwenno Lewis, Prentis ym Meithrinfa Camau Bach, Aberystwyth, Ceredigion

Gwenno Lewis

“Rydw i wedi cael profiad positif a chefnogol gan fy nhiwtoriaid, fy nghydweithwyr a’m lleoliad. Mae wedi bod yn ffordd ragorol o ennill profiad gwaith a chael cymhwyster ar yr un pryd.”

 

Jess Williams, Prentis ym Meithrinfa Medra Llangefni, Ynys Môn

Jess Williams

“Rydw i wedi mwynhau’r cynllun prentisiaeth hyd yma. Ar y dechrau doeddwn i ddim yn gwybod a fyddwn i’n ei fwynhau, ond rydw i wedi mwynhau pob munud. Mae wedi rhoi’r cyfle i mi gyfarfod a gweithio gyda phobl hyfryd.

Mae’r brentisiaeth wedi rhoi profiad ymarferol i mi o weithio gyda phlant ac wedi rhoi sicrwydd i mi ynglŷn â’m llwybr gyrfa.”

 

Beth yw eich proses recriwtio?

Mae’r rolau prentisiaethau yn cael eu hysbysebu drwy wefan Mudiad Meithrin. Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar gyfer y brentisiaeth cyn cael eu gwahodd i gyfweliad. Os ydyn nhw’n llwyddiannus, gellir eu cyfeirio atom ni, at Gylch Meithrin neu ysgol i gyflawni’r rôl brentisiaeth.

Os nad oes ganddyn nhw gymwysterau TGAU ar lefel ofynnol mewn mathemateg ac iaith, fe allan nhw gael help gyda hyn gan eu tiwtor drwy’r brentisiaeth.

 

Beth yw manteision dilyn prentisiaeth?

Gall prentisiaid hyfforddi wrth weithio gyda ni ac mae’n ofynnol iddyn nhw weithio o leiaf 16 awr yr wythnos fel rhan o’r contract hyfforddiant. Gallant hefyd weithio oriau ychwanegol ac ennill cyflog wrth astudio.

Rydym yn cynnig buddion cyflogaeth, oriau hyblyg, a mentora i’n holl staff, gan gynnwys ein prentisiaid. Pan fo unigolion yn cymhwyso, rydyn ni’n gwneud ein gorau i gynnig gwaith iddyn nhw.

Fel cyflogwr, rydyn ni’n pwysleisio pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus. Rydyn ni’n cynnig hyfforddiant ychwanegol fel cymorth cyntaf, hylendid bwyd, diogelu plant a hyfforddiant ar bethau fel adeiladu ffau, gwaith coed, trochi iaith a llawer mwy drwy Academi, sef porth hyfforddiant y Mudiad Meithrin.

Maen nhw’n cael y cyfle i weithio law yn llaw gyda staff cymwys a phrofiadol. Maen nhw’n cael gweld arferion da ym maes gofal plant a manteision dysgu drwy chwarae gyda phlant o bob oed. Maen nhw’n dysgu ac yn deall pwysigrwydd trefn i blant a’r anghenion gofal sy’n ofynnol.

Maen nhw hefyd yn dysgu am bwysigrwydd polisïau, gweithdrefnau a rheoliadau. Maen nhw’n rhan o’r tîm ac yn cynnal sesiynau un i un rheolaidd gyda chyfaill yn y gwaith.

Os ydyn nhw am ddysgu ymhellach a datblygu eu gyrfa, gallant gael mynediad at lefelau pedwar a phump y Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Rheoli i fod yn Ddirprwy Reolwr neu’n Rheolwr. Gallant hefyd gael mynediad at gyrsiau eraill amrywiol drwy brifysgolion ar lefel gradd.

 

Pam cwblhau prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg?

Rydyn ni’n cynnig cymorth gyda’r Gymraeg drwy gynlluniau “Croesi’r Bont” a “Camau” y Mudiad Meithrin os nad ydyn nhw’n siaradwyr Cymraeg hyderus.

Bydd gweithio mewn amgylchedd Cymraeg yn eu helpu i fagu hyder os nad ydyn nhw’n siaradwyr Cymraeg rhugl eu hunain. Bydd bod yn ddwyieithog o fudd mawr iddyn nhw wrth ddilyn gyrfa yng Nghymru yn y dyfodol.

Darllenwch fwy am Prentisiaethau Cyngor Sir Ceredigion
Lynne Connolly

Mae Lynne Uwch Swyddog Datblygu a Chydgysylltydd Prentisiaethau yn gofalu am raglen brentisiaethau Cyngor Sir Ceredigion, sy’n cwmpasu prentisiaethau traddodiadol yn ogystal ag uwchsgilio staff, i gyflwyno cyfleoedd newydd i’r cyngor.

Soniwch am eich swydd

Rwy’n gweithio gyda rheolwyr a swyddogion adnoddau dynol ar strategaethau cynllunio a recriwtio’r gweithlu i helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau. Rwyf hefyd yn helpu rheolwyr i gael gwell dealltwriaeth o fanteision prentisiaid ac yn cefnogi’r prosesau hysbysebu, recriwtio a chyfweld. Rwyf hefyd yn gweithio gydag ysgolion a chydweithwyr.

Mae gen i gefndir ym maes adnoddau dynol a dysgu a datblygu. Pan welais y swydd prentisiaethau gyda Chyngor Sir Ceredigion fe wnes i feddwl y byddai’n rhoi sylw i bopeth rwy’n ei hoffi am roi cyfleoedd ac addysg newydd i bobl.

 

Pam mae’r rhaglen brentisiaethau mor bwysig?

Ein prif sbardun fel un o gyflogwyr mwyaf yr ardal yw cyfrannu at greu cyfleoedd gyrfa ystyrlon i bobl ifanc a’r rhai sydd am newid gyrfa.

Credwn fod hyn yn dod â thalent newydd i’r gweithlu ac yn cefnogi pobl i aros yng Ngheredigion. Efallai mai ein prentisiaid fydd rheolwyr yfory, ac rydym yn gwir werthfawrogi a chefnogi eu datblygiad yn y Cyngor.

Mae ein rhaglen brentisiaethau hefyd wedi cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ar gyfer rhai o’n prentisiaid. Drwy weithio i’r Cyngor maen nhw wedi llwyddo i gadw a gwella eu sgiliau Cymraeg ers gadael yr ysgol.

 

Disgrifiwch sut mae’r rhaglen brentisiaethau wedi esblygu?

Y protocol cyntaf oedd cael rheolwyr i ddeall manteision prentisiaethau ac esbonio sut y byddai’n gweithio gyda’u busnes.

Roedd hyn yn golygu rhywfaint o ymchwil i ddechrau. Fe wnes i hyn drwy rwydweithio â sefydliadau eraill fel Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Mae’r Ffederasiwn yn helpu i ddod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant lleol i ddarparu’r cymhwyster prentisiaeth.

Rydym wedi recriwtio 17 o brentisiaid ers 2018 ac mae wyth o’r rhain wedi bod yn y sector gofal cymdeithasol. Rydym wedi cael pum swydd rheng flaen fel cynorthwywyr gofal a gweithwyr ieuenctid ar brentisiaeth, a thair swydd weinyddol gefnogol.

Mae aeddfedrwydd a phroffesiynoldeb ein prentisiaid wedi disgleirio dros y tri blynedd diwethaf. Mae trigolion cartrefi gofal wedi dweud eu bod yn hoffi rhyngweithio â gweithwyr iau. Rydym wedi gweld manteision gwaith sy’n pontio’r cenedlaethau a’r perthnasoedd cadarnhaol sydd wedi’u meithrin yn sgil hyn.

 

Disgrifiwch eich proses recriwtio?

Rydym yn hysbysebu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gwefan y cyngor a thrwy fynychu ffeiriau gyrfaoedd ac ysgolion uwchradd. Rydym yn targedu rhieni drwy sefydliad lleol, cysylltiadau cymunedol a cholegau addysg bellach.

Rydym yn cadw ein negeseuon yn syml, drwy greu fideos i roi cipolwg o’r rhaglen a beth yw’r yrfa. Allwch chi ddim ysgrifennu pethau fel hyn mewn swydd-ddisgrifiad. Maen nhw’n clywed gan brentisiaid a’r bobl y byddan nhw’n gweithio gyda nhw o bosibl.

Mae ein dull cyfweld ac ymgeisio yn cael ei deilwra i bob swydd. Rydym yn cynllunio cwestiynau a thasgau sy’n helpu’r ymgeiswyr i ddangos eu gwerthoedd, cryfderau, rhinweddau a phrofiad bywyd.

Rydym yn gofyn i ymgeiswyr gwblhau tasg ymarferol y gallant ei pharatoi cyn y cyfweliad. Er enghraifft, gwneud bocs atgofion go iawn neu rithwir neu restr o weithgareddau yn seiliedig ar broffil cyffredinol preswylydd mewn cartref gofal a ddarperir gennym ni.

Yn ystod y cyfweliad bydd yr ymgeisydd yn dweud wrthym pam ei fod wedi dewis yr eitemau neu’r gweithgareddau hynny. Mae hyn yn helpu pobl i ddangos ‘dull sy’n canolbwyntio ar y person’, eu gwerthoedd a’u priodweddau gofalu, hyd yn oed pan nad oes ganddynt brofiad o weithio yn y sector gofal cymdeithasol o bosibl.

 

Pa gymorth sydd ar gael i reolwyr sy’n cyflogi prentisiaid?

Mae’n rhaid cael tîm i sicrhau llwyddiant prentisiaeth. Rwy’n cefnogi rheolwyr i gynllunio’r swydd-ddisgrifiad ac yna drwodd i’n nod o gyflogi’r prentisiaid y barhaol – i gwblhau’r brentisiaeth.

Rwy’n cynnal sesiynau gwybodaeth ar gyfer rheolwyr ac yn herio’r camdybiaethau. Ar ôl i ni benodi rhywun rydym yn trafod ei drefniadau sefydlu ac yn cyfarfod bob chwe wythnos.

Rwy’n cadw mewn csylltiad â rheolwyr hyfforddiant i weld sut mae’r cymhwyster yn mynd ac yn cynnal rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid i reolwyr sy’n dod ynghyd i rannu eu gwaith.

 

Pa gymorth sy’n cael ei roi i brentisiaid?

Mae prentisiaid yn cael cyfnod sefydlu a rhaglen strwythuredig. Ers dechrau gweithio’n rhithwir rydym wedi darparu mwy o gymorth a mentora. Rydym hefyd yn sicrhau eu bod yn cael yr holl fuddion a’r cyfleoedd datblygu y mae gweithwyr eraill yn eu cael.

Rydym yn cysylltu prentisiaid cyfredol â phrentis sydd wedi cwblhau’r cymhwyster yn y gorffennol. Ar ôl chwe mis rydym yn dod at ein gilydd i drafod cyfleoedd parhaol a allai fod ar gael.

Rwy’n cynnal cyfweliadau un-i-un gyda phrentisiaid i ddangos eu llwyddiannau ac yn rhannu hyn ar y fewnrwyd i geisio annog rheolwyr eraill i ystyried recriwtio.

 

Pam ddylai cyflogwyr eraill ystyried cymhwyster prentisiaeth?

Mae gwybod eich bod chi wedi cyfrannu mewn ffordd fach at sefydlu gyrfa rhywun yn ogystal â chyfrannu at gryfder eich sefydliad yn rhoi teimlad gwych i rywun.

Rydym yn argymell y rhaglen brentisiaethau gan ei bod yn denu talent newydd a chyfleoedd gyrfa i bobl ifanc a’r rhai sydd am newid gyrfa.

O safbwynt cyflogwr, mae wedi talu ar ei ganfed. Mae’r rhan fwyaf o’n prentisiaid wedi sicrhau swyddi parhaol. Mae’r sgiliau a’r brwdfrydedd maen nhw wedi’u cyflwyno i’r cyngor yn anhygoel. Mae rhai wedi cael dyrchafiad ac wedi dechrau ar eu taith o yrfa hir gyda ni yma yng Ngheredigion gobeithio.Convert to Blocks

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.