Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

18 Medi 2024

Mae enwebiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobr Gofalwn Cymru yn y Gwobrau 2025

The Accolades logo

Mae ceisiadau ac enwebiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau 2025. Eleni yw 20fed pen-blwydd y gwobrau blynyddol a drefnir gan Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n cydnabod, dathlu a rhannu gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar rhagorol yng Nghymru.

Mae gwobr Gofalwn Cymru yn ôl eto ar gyfer 2025 ac mae’n cydnabod ac yn dathlu gweithwyr gofal unigol a gwirfoddolwyr.

Mae’r wobr wedi’i hanelu at weithwyr gofal cyflogedig neu wirfoddolwyr sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ac yn eu helpu i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Ydych chi wedi gwneud rhywbeth unigryw neu arloesol sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r bobl yr ydych yn eu cefnogi neu eich gweithlu?

Neu a ydych chi'n adnabod rhywun sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli yn y sectorau sy'n haeddu cael eu cydnabod am y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud? Os felly, mae Gofal Cymdeithasol Cymru eisiau clywed gennych chi!

Mae chwe chategori ar gael eleni – pedwar ar gyfer timau, prosiectau a sefydliadau, a dau ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr.

Dyma’r categorïau ar gyfer grwpiau, prosiectau a sefydliadau:

  • Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
  • Datblygu ac ysbrydoli’r gweithlu
  • Gweithio mewn partneriaeth
  • Gweithio yn unol ag egwyddorion ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau.

Dyma’r categorïau ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr:

  • Gwobr arweinyddiaeth effeithiol
  • Gwobr Gofalwn Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ac enwebiadau yw 5pm, 1 Tachwedd 2024.

Ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru am fwy o wybodaeth am y Gwobrau 2025 ac i llenwi ffurflen gais neu enwebu.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.