Nyrs y flwyddyn 2022
Mae Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru wrth ei fodd o weld gwobrau Nyrs y Flwyddyn yn dychwelyd yn 2022.
Eleni, maent yn edrych ymlaen at ddathlu 10fed pen-blwydd eu gwobrau mawreddog, gan gydnabod safonau eithriadol mewn nyrsio. Mae ein gwobrau’n cydnabod yr ymdrechion, yr ymrwymiad a’r cyflawniadau eithriadol sydd wedi cael eu gwneud gan y gymuned nyrsio gyfan.
Ydych chi’n adnabod Nyrs y Flwyddyn nesaf Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru 2022?
Os felly, dathlwch eu cyflawniad a rhannwch eu stori, a rhoi’r gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu iddynt.Gellir llenwi ffurflenni enwebu ar-lein ar gyfer pob un o’r 17 categori drwy’r dudalen ‘Nyrs y Flwyddyn’ ar wefan Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, y dyddiad cau yw 30 Mehefin 2022.
DYMA GATEGORÏAU ELENI:
- Gwobr Uwch Nyrs a Nyrs Arbenigol
- Gwobr Gofalu am Berson Hŷn
- Gwobr Prif Swyddog Nyrsio Cymru
- Gwobr Plant a Bydwreigiaeth
- Gwobr Nyrsio Cymunedol
- Gwobr Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
- Gwobr Gwella Iechyd Unigolion
- ac Iechyd y Boblogaeth
- Gwobr Arloesi a Digideiddio mewn Nyrsio
- Gwobr Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl
- Gwobr Cyflawniad Oes
- Gwobr Addysg Nyrs
- Gwobr Myfyriwr Nyrsio
- Gwobr Nyrsio Gofal Sylfaenol
- Gwobr Nyrs Gofrestredig (Oedolyn)
- Cefnogi Addysg a Dysgu mewn Ymarfer
- Gwobr Cefnogi Gwelliant Drwy Ymchwil
- Gwobr Nyrsio Lliniarol Pediatrig Suzanne Goodall
Gall unigolion gael eu henwebu am wobr gan gyfoedion, timau, rheolwyr, cleifion a’r cyhoedd. Rhaid i nyrsys enwebedig, bydwragedd, myfyrwyr nyrsio, a gweithwyr cymorth gofal iechyd ddangos angerdd dros eu proffesiwn ac enghreifftio gwahaniaethu mewn gofal, arweinyddiaeth, gwasanaeth ac arloesedd. Anogir amrywiaeth mewn enwebeion i adlewyrchu’r gweithlu yng Nghymru ar draws pob maes nyrsio; Y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol Annibynnol, y Trydydd Sector, y GIG, neu’r Awdurdod Lleol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â CPDWales@rcn.org.uk
Gwnewch yn siŵr eich bod yn eu tagio ar gyfryngau cymdeithasol a defnyddiwch y #WalesNOTY2022
Dolenni cyfryngau cymdeithasol:
Facebook: RCNWales
Trydar: @RCNWales
Instagram: rcn_wales