Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

04 Hydref 2023

Sesiwn llesiant ariannol i gyflogwyr

Social Care Wales Logo

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal sesiwn lles ariannol i gyflogwyr.

Sesiwn wybodaeth am lesiant ariannol fel rhan o wythnos 'Siarad am Arian'.

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer:

  • cyflogwyr gweithwyr cofrestredig ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys Unigolion Cyfrifol a rheolwyr cofrestredig

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal gan Rhian Hughes o’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).

Mae’n gyfle i chi ddysgu:

  • beth yw llesiant ariannol, a pham mae’n bwysig
  • pam mae llesiant ariannol yn bwysig i’n busnesau a’n staff
  • beth yw MaPS, a sut y gall helpu
  • am MoneyHelper/HelpwrArian
  • pa arweiniad am ddim ar arian a phensiynau sydd ar gael i chi
  • bod offer ac adnoddau ar gael i’ch cefnogi chi a’ch staff
  • pa gymorth arall sydd ar gael yng Nghymru

Bydd cyfle hefyd i chi ofyn cwestiynau i Rhian am lesiant ariannol.

Os ydych chi wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithsaol Cymru, bydd y sesiwn hon yn cyfrannu at awr o’ch datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Archebu lle ar Eventbrite

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.