Sut mae ychydig bach o Gymraeg yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr ym maes gofal cymdeithasol
O ofal personol, i gymorth gyda thasgau bob dydd, cynnal gweithgareddau neu gael sgwrs hyd yn oed, mae gweithwyr yn y sector gofal yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt bob dydd.
A rhan fawr o gynnig gofal o safon yw sicrhau bod gan bawb gyfle i dderbyn gofal yn yr iaith y maen nhw’n teimlo fwyaf cyfforddus yn ei siarad.
Dyna pam mae Gofalwn.Cymru yn annog siaradwyr Cymraeg i gael gyrfa ym maes gofal cymdeithasol, ac yn gofyn i ofalwyr sy’n medru’r Gymraeg ddefnyddio eu sgiliau.
P’un a ydych chi’n siaradwr Cymraeg rhugl neu’n siarad tipyn bach, bydd defnyddio unrhyw Gymraeg yn helpu i greu cysylltiadau agosach fel gweithiwr gofal, a gwneud gwahaniaeth positif i ofal cymdeithasol yng Nghymru.
I lawer o siaradwyr Cymraeg sy’n derbyn gofal, mae gallu siarad yn eu mamiaith yn hanfodol i’w lles. Bydd llawer o bobl hŷn yn troi nôl at yr iaith sydd fwyaf cyfarwydd iddynt wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaenau, ac mae’n bosibl mai dim ond yn eu hiaith gyntaf y bydd pobl â chyflyrau fel demensia yn gallu mynegi eu hunain.
Mae siarad â rhywun yn eu hiaith gyntaf yn creu cysylltiad go iawn. Mae’n fwy na geiriau.
Mae cartref gofal Glan Rhos yn Ynys Môn yn credu’n gryf bod defnyddio’r Gymraeg wrth ofalu – o Gymraeg sylfaenol i rugl – yn hanfodol i’r gwasanaeth sydd ar gael i’w breswylwyr. Cawsom glywed yn uniongyrchol gan bobl wahanol yn y cartref am eu safbwyntiau.
Rhian Owen – Cynorthwyydd Gofal
Mae Rhian yn byw’n lleol ar Ynys Môn ac yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf. Wedi dilyn olion traed ei mam ar ôl gadael yr ysgol, mae Rhian wedi bod yn weithiwr gofal ers 18 mlynedd, ac yn teimlo bod ei swydd yn wirioneddol gwerth chweil. Yn ystod y cyfnod hynny, mae hi wedi gweld yn uniongyrchol y gwahaniaeth y gall defnyddio’r Gymraeg ei wneud i’r bobl dan ei gofal.
“Mae rhai o’r preswylwyr yn nerfus wrth gyrraedd y cartref; mae’n newid mawr iddyn nhw felly mae’n bwysig bod rhai aelodau staff yn y cartref yn siarad Cymraeg. Mae’n eu gwneud nhw’n gyfforddus, ac yn helpu chi i greu perthynas yn syth.
“Mae ‘na gymysgedd o allu yma, dydi pawb ddim yn siarad Cymraeg ac mae rhai aelodau staff wedi dysgu wrth weithio – mae’n hawdd dysgu ychydig wrth wrando ar gydweithwyr a phreswylwyr yn siarad."
Ezelina Dacruz – Nyrs Clinigol Arweiniol
Mae Ezelina, sy’n dod o Falawi yn wreiddiol, wedi byw yng Nghymru ers 18 mlynedd, ac wedi bod yn dysgu Cymraeg fel trydedd iaith er mwyn ei helpu i wella safon y gofal y gall ei gynnig i breswylwyr.
“Dwi ‘di bod yn nyrs ers 23 mlynedd. Er i mi hyfforddi ym Malawi, dwi wedi treulio’r rhan fwyaf o’m gyrfa yn gweithio yma yng Nghymru.
“Dwi heb fod ar gwrs Cymraeg erioed, ond dwi ‘di dysgu sut i sgwrsio yn Gymraeg gan gydweithwyr dros y blynyddoedd, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r gofal dwi’n gallu ei gynnig.
“Yn aml, ‘dan ni’n gweld preswylwyr â demensia’n troi nôl at yr iaith roedden nhw’n ei siarad pan ro’n nhw’n ifanc, felly mae gallu cyfathrebu’n Gymraeg â phreswylwyr, hyd yn oed ar lefel sylfaenol, yn bwysig iawn.
“Does dim rhaid gwybod bob dim – mae brawddegau syml yn ddigon fel “Bore da. Sut ti’n teimlo? Ti mewn poen?”. Mae ‘chydig bach yn help mawr.
“Mae’r ffordd ti’n rhyngweithio hefo preswylwyr a’u teuluoedd yn bwysig iawn. ‘Dan ni’n eu cefnogi nhw’n feddygol, yn gorfforol ac yn emosiynol tan y diwedd un. Os ydw i’n llwyddo i wneud nhw’n gyfforddus mewn amgylchedd fel hyn, mae hynny’n wych i mi.”
Wini Jones – aelod teulu
Yn wirfoddolwr rheolaidd yn y cartref, dechreuodd cysylltiad Wini â Glan Rhos ar ôl i’w Anti Mary ddod yn breswylydd.
“Roedd aelodau staff cyfeillgar yn y cartref, oedd yn gallu siarad Cymraeg, yn hynod bwysig. Rhoddodd gyfle iddi greu perthynas hefo nhw. Mae wedi cael effaith fawr ar safon y gofal yma.
“Dwi ‘di bod yn gwirfoddoli yma hefo Age Cymru ers i’r cartref agor ei ddrysau i ymwelwyr eto ar ôl cyfnodau clo COVID-19. Dwi’n helpu hefo ymwelwyr, yn siarad hefo preswylwyr, ac mae’n rhoi cyfle imi weld Anti Mary.
“Mae’r cartref yn gwneud ymdrech i gynnal gweithgareddau diwylliannol – canu emynau Cymreig traddodiadol a hen ganeuon rhyfel fel ‘It’s a long way to Tipperary’. Mae’n rhoi teimlad o gysondeb, ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n gyfarwydd.”
Arfon Môn Owen – preswylydd
Symudodd Arfon i Lan Rhos yn 2018. Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, nad oedd yn siarad Saesneg wrth dyfu i fyny, mae Arfon yn dweud bod gallu siarad Cymraeg â’i ofalwyr yn gwneud iddo deimlo’n gartrefol.
“Dwi wrth fy modd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau yng Nglan Rhos. ‘Dan ni’n chwarae bingo bob dydd Iau, a dwi ‘di dysgu sut i wau. Ar hyn o bryd, dwi wrthi’n gwau sgarff pinc a gwyn i ferch aelod o staff.
“Dydi Wendy, y cydlynydd gweithgareddau, ddim yn siarad Cymraeg, ond mae’n dallt ambell i air pan ‘dan ni’n gwau.”
Kim Ombler – Cyfarwyddwr y Cartref Gofal
Daeth Kim a Helen, ei chwaer, yn gyd-gyfarwyddwyr Glan Rhos yn 2000 ar ôl cymryd yr awenau gan eu rhieni, a agorodd y cartref yn 1989.
“Ma’ ‘na rywbeth i bawb, beth bynnag yw’ch set sgiliau, ac mae llwyth o gyfleoedd hyfforddiant sy’n gallu bod yn hyblyg i siwtio’r unigolyn.
“Mae gan Ynys Môn gymuned siaradwyr Cymraeg cryf, felly ‘dan ni bob amser yn gwneud yn siŵr bod aelodau staff ar y rota sy’n gallu gofalu am breswylwyr yn eu hiaith ddewisol. Mae’n golygu ein bod ni’n gallu cynnig gwasanaeth hollol ddwyieithog yma yng Nglan Rhos.
“Galwedigaeth yw gweithio ym maes gofal. Mae rhoi gofal i rywun a gwybod eich bod chi ‘di gwneud gwahaniaeth i’w fywyd yn rhoi synnwyr o bwrpas i chi. Mae’n arbennig.
“Meddyliwch i chi’ch hun – pa fath o ofal fyddech chi eisiau i’ch mam, dad, nain, taid ei gael? ‘Dan ni yma i’r preswylwyr tan y diwedd. ‘Swn i’n newid o? Byth.” I rywun sy’n derbyn gofal, mae defnyddio’r Gymraeg yn fwy na geiriau.