Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

23 Mai 2024

Gwobrau 2024

Accolades ceremony picture of the stage

Y gwobrau sy’n cydnabod, dathlu a rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae mis wedi mynd heibio ers i seremoni wobrwyo Gwobrau 2024 gael ei chynnal ddydd Iau 25 Ebrill yng Ngwesty Mercure Cardiff Holland House.

Daeth tua 130 o westeion i’r seremoni, a oedd yn llwyddiant mawr ac yn ddathliad gwych o’r rhai sy’n gweithio mewn gofal.

Cafodd y seremoni ei gyflwyno gan y darlledwr Garry Owen a Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Sue Evans. Dosbarthodd Cadeirydd y Bwrdd, Mick Giannasi y tlysau a’r tystysgrifau i bob un o’r enillwyr a’r terfynwyr.

Dewiswyd wyth prosiect gwych a 10 o unigolion neu dimau gan banel o feirniaid i gyrraedd rownd derfynol Gwobrau 2024 ar draws chwe chategori, a gallwch ddarganfod mwy amdanynt yma. Mae enillwyr pob categori i'w gweld yma.

Os methoch chi'r seremoni wobrwyo, neu os ydych chi eisiau gwylio'n ôl, gallwch chi wneud hynny yma: Gwyliwch seremoni wobrwyo’r Gwobrau 2024 ar YouTube.


Accolades ceremony picture of the stage

Fis yn ddiweddarach, mae effaith y Gwobrau yn parhau i'n hysbrydoli. Mae’r straeon am ymroddiad a thosturi yn ein hatgoffa o’r rôl hollbwysig y mae’r gweithwyr proffesiynol hyn yn ei chwarae yn ein cymunedau.

I lawer yn y sector gofal, roedd y Gwobrau yn foment o gydnabyddiaeth brin. Wrth inni symud ymlaen, y gobaith yw y daw’r momentau hyn yn amlach, gan sicrhau bod pawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu gwaith.

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan y Gwobrau eleni, beth am ddilyn sianeli cyfryngau cymdeithasol Gofal Cymdeithasol Cymru i fod y cyntaf i glywed am enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r flwyddyn nesaf. Gallwch enwebu eich tîm, prosiect neu sefydliad, neu weithiwr sy'n haeddu cael ei gydnabod!

Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran, o'r tîm Gofalwn.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.