Arolwg Dweud Eich Dweud 2024 yn fyw
Mae Gofal Cymeithadol Cymeu eisiau glywed eich barn am weithio ym maes gofal cymdeithasol ac am bethau fel tâl ac amodau, eich iechyd a’ch llesiant, a beth rydych chi’n ei hoffi am weithio yn y sector fel rhan o’n harolwg Dweud eich Dweud 2024.
Maen nhw'n gobeithio bydd y nifer mwyaf posibl yn cwblhau'r arolwg, o ystod eang o rolau gofal cymdeithasol.
Mae'r arolwg yn cael ei gynnal ar y platfform Online Surveys, a bydd ar agor tan 22 Chwefror.
Bydd rhannu eich meddyliau yn helpu i lunio'r gefnogaeth rydyn ni a'n partneriaid yn ei gynnig, felly peidiwch â cholli'ch cyfle i ddweud eich dweud.
Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill taleb siopa gwerth £20.
Cymerwch ran yn arolwg Dweud Eich Dweuch 2024
Dilyn tueddiadau'r gweithlu
Maen nhw'n cynnal yr arolwg hwn eto fel y gallwn ni ddechrau monitro tueddiadau o ran beth mae pobl yn ei feddwl am weithio ym maes gofal cymdeithasol.
Hyd yn oed os ydych chi wedi gadael y sector, hoffan nhw glywed am eich profiadau.
Maen nhw hefyd eisiau darganfod mwy am rai o'r themâu a ddaeth i'r amlwg o arolwg y llynedd i roi darlun sy’n fwy manwl i ni o'r hyn sy'n digwydd.
Un o'r ffyrdd y byddwn ni’n gwneud hyn yw drwy gynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda gweithwyr a chyflogwyr. Os hoffech chi gymryd rhan yn y cyfweliadau neu'r grwpiau ffocws, gallwch chi gysylltu â'r tîm ymchwil ar SCWsurvey@bathspa.ac.uk.
Partneriaid y gwaith
Bydd Prifysgol Bath Spa a Chymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW) yn gweithio gyda ni i gynnal yr ymchwil hwn.
Bydd eich holl atebion yn ddienw a byddwn ni’n rhannu'r canfyddiadau ar eu gwefan ar ôl dadansoddi'r canlyniadau.
Cymerwch rhan mewn hyrwyddo'r arolwg
Mae nhw'n gofyn i gyflogwyr a sefydliadau eraill i'n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r arolwg ac i annog cymaint o'r gweithlu gofal cymdeithasol ag sy’n bosib i gymryd rhan.
Maent wedi creu rhai adnoddau y gallwch chi eu defnyddio i hyrwyddo'r arolwg, gan gynnwys poster i'w arddangos yn eich gweithle, copi newyddion i anfon at gydweithwyr, a deunydd i'w rannu ar eich cyfryngau cymdeithasol neu sianeli mewnol.
Mae'r adnoddau i gyd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a gallwch chi eu lawrlwytho drwy glicio ar y ddolen isod.
Byddai trafod yr arolwg yn ystod cyfarfodydd gyda chydweithwyr hefyd yn ein helpu i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl.
Beth oedd canlyniadau arolwg 2023?
Ym mis Hydref, fe wnaeth Gofal Cymeithasol Cymru cyhoeddi canlyniadau arolwg peilot 2023, a ddangosodd fod gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi gan y bobl a'r teuluoedd y maen nhw’n eu cefnogi. Ond maen nhw hefyd yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol gan y cyhoedd ac nad ydyn nhw'n cael digon o dâl am y gwaith maen nhw’n yn ei wneud.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am arolwg y gweithlu 2023, gallwch chi ddarllen yr adroddiad llawn yma.
Angen mwy o wybodaeth?
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am arolwg Dweud Eich Dweud 2024, mae rhai atebion ar gael ar eu tudalen cwestiynau cyffredin.
Gallwch chi hefyd gysylltu trwy e-bostio SCWsurvey@bathspa.ac.uk.