Gofalwn Cymru yn Skills Cymru 2025

Mae Gofalwn Cymru yn gyffrous i fod yn bresennol yn Skills Cymru eleni, digwyddiad gyrfaoedd a sgiliau mwyaf Cymru, sy’n cael ei gynnal ddydd Mercher 26 a dydd Iau 27 Tachwedd 2025 yn Arena Utilita, Caerdydd.
Gyda dros 2,000 o fynychwyr yn cael eu disgwyl, mae Skills Cymru yn dod â chyflogwyr cenedlaethol a lleol, prifysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant ynghyd i ysbrydoli ac addysgu pobl ifanc rhwng 14 – 24 oed, yn ogystal â’u rhieni, gofalwyr a’u hathrawon.
Ein gweithgareddau ar y diwrnod
Byddwn yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau deniadol wedi’u cynllunio i helpu myfyrwyr archwilio gyrfaoedd ym maes gofal.
- Cwestiwn ac ateb gyda'n hyfforddwyr:
Cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau am opsiynau gyrfa, cymwysterau, a’r amrywiaeth eang o rolau sydd ar gael yn y sector gofal. - Adnoddau i athrawon:
Siawns i archwiliwch ein hoffer a deunyddiau am ddim i helpu cefnogi myfyrwyr sy’n ystyried gyrfa ym maes gofal. - Cofrestru ar raglen hyfforddiant:
Gall ysgolion a cholegau gofrestru ar ein rhaglen addysgu bellach 16 am ddim. - Profiad realiti rhithwir (VR):
Cael eich trochi mewn amgylcheddau gofal go iawn a rolau swyddi drwy ein gorsafoedd VR rhyngweithiol. - Gweithgareddau: Cymerwch ran yn ein cardiau gyrfa, yn greadigol gyda’r gorsaf bwrdd hwyliau, a chael mewnwelediad i waith gofal drwy’r profiad gyda’n gogls dementia.
Manylion y digwyddiad
Lleoliad: Arena Utilita, Caerdydd – dim ond taith fer o orsafoedd Caerdydd Canolog a Stryd y Frenhines.
Dyddiadau: Dydd Mercher 26 a Dydd Iau 27 Tachwedd 2025
Amserau Agor:
- Diwrnod un: 10:00am –14:30pm a 15:30pm–18:00pm
- Diwrnod dau: 10:00am –14:00pm