Neidio i'r prif gynnwys
Prentisiaethau

10 Chwefror 2025

Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau #NAW2025

Apprentice's learning at a desk with laptops

Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

Cynhelir Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau rhwng 10 - 16 Chwefror 2025 ac mae’n dathlu ac yn dod â busnesau a phrentisiaethau ledled y wlad ynghyd i daflu goleuni ar yr effaith gadarnhaol y mae prentisiaethau yn ei chael ar unigolion, busnesau a’r economi ehangach.

Wrth i Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau agosáu, mae Gofalwn Cymru yn dathlu’r cyfraniadau amhrisiadwy y mae prentisiaethau’n eu gwneud i’r sector gofal cymdeithasol a gofal plant.

Mae’r wythnos hon yn ein hatgoffa o fanteision prentisiaethau i unigolion a chyflogwyr, gan feithrin twf, datblygiad a rhagoriaeth o fewn y sector.

Pam dylech chi ystyried prentisiaeth

Mae prentisiaethau yn gyfle gwych i unigolion gael profiad ymarferol a chymwysterau gwerthfawr.

Mae'r cymwysterau prentisiaeth yn gymysgedd o ddysgu a phrofiad gwaith, a sgiliau cyfathrebu a rhifedd.

Mae prentisiaeth fel arfer yn cymryd rhwng 18 mis a dwy flynedd i'w chwblhau.

Mae prentisiaethau yn addas ar gyfer pob oed. Os ydych chi’n 16 oed neu'n hŷn ac eisiau gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant, gallai prentisiaeth fod yn lle da i ddechrau.

Gwyliwch y fideo hwn, os hoffech chi ddysgu mwy am brentisiaethau mewn gofal

Pam y dylai cyflogwyr ystyried cynnig prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn fuddsoddiad gwych yn nyfodol eich sefydliad.

Dyma rai rhesymau pam mae cynnig prentisiaethau yn wych i gyflogwyr:

  • Denu pobl ifanc brwdfrydig a’r rhai sy’n newid gyrfa

Mae prentisiaethau yn denu pobl ifanc llawn cymhelliant a phobl sy'n newid gyrfa, sy'n dod â egni a phersbectif newydd

  • Lleihau trosiant staff a gwella'r gyfradd gadw

Mae buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygiad yn gwella cyfraddau cadw staff ac yn lleihau'r costau sy'n gysylltiedig â throsiant staff uchel

  • Helpu i gydbwyso gweithleodd sy'n heneiddio

Mae prentisiaethau yn helpu i greu gweithlu cytbwys, aml-genhedlaeth

  • Cynnig rhagor o gyfleuoedd yn eich cwmni

Yn darparu rolau amrywiol a chyfleoedd twf o fewn eich cwmni, gan ei wneud yn lle deniadol i weithio

...a llawer mwy.

Gwyliwch y fideo hwn, os ydych yn gyflogwr ac yn awyddus i ddysgu mwy am brentisiaethau mewn gofal

Canllawiau i gyflogwyr

Dysgwch fwy am redeg prentisiaethau o fewn eich sefydliad, y buddion, y cyllid a'r cymhwysedd, lefelau prentisiaeth a sut i recriwtio.

Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli?

Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn amser i ddathlu a hyrwyddo’r effaith anhygoel y mae prentisiaethau’n ei chael ar y sector gofal.

Mae Gofalwn Cymru yn annog cyflogwyr ac unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd hyn, gan baratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol mwy disglair mewn gofal.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan mewn prentisiaethau, ewch i wefan Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau a chadwch olwg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am fwy o straeon ysbrydoledig a gadewch i ni hyrwyddo dyfodol gofal gyda’n gilydd!

Facebook: @GofalwnCymru / @WeCareWales

X: @GofalwnCymru / @WeCareWales

Instagram: @gofalwncymrucares

LinkedIn: @gofalwn-cymru-wecare-wales/

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.