Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

13 Rhagfyr 2023

Cyflwyniad i ofal cymdeithasol yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Tomorrow’s Care

People sitting on a U-shaped table with a person speaking to them from the middle.

Llongyfarchiadau mawr i dîm Gofalwn Cymru, wrth i’r rhaglen Cyflwyniad i ofal cymdeithasol gyrraedd y rownd derfynol yng ngwobrau Tomorrow’s Care.

Mae’r gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan Tomorrow’s Care, yn dathlu cynnyrch a gwasanaethau arloesol o bob rhan o’r sector gofal.

Mae Cyflwyniad i ofal cymdeithasol yn un o’r 25 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Nod y rhaglen yw rhoi blas i’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal o sut beth yw gweithio yn y sector mewn gwirionedd.

Ers ei lansio yn 2022, mae’r rhaglen wedi darparu hyfforddiant i 1,000 a mwy o bobl, ac wedi ymgysylltu â grwpiau a chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli.

Ers hynny, mae dros 17 y cant o’r rhai a gymerodd ran yn y rhaglen wedi mynd ymlaen i weithio, gwirfoddoli neu astudio yn y maes.

Mae’r cyfnod pleidleisio bellach ar agor – bydd y bleidlais yn cau ar 11 Mawrth 2024.

Dywedodd Sarah McCarty, ein Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu: "Llongyfarchiadau mawr i'n tîm Cyflwyniad i ofal cymdeithasol.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod y tîm wedi cael ei gydnabod am y gwaith rhagorol maen nhw’n ei wneud. Mae’r enwebiad hwn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad y tîm a’n partneriaid – gan gynnwys Gyrfa Cymru a grwpiau cymunedol – dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gyflwyno mwy o bobl yng Nghymru i yrfa yn y sector gofal.

“Da iawn chi – a phob lwc!”

Rhagor o wybodaeth am Wobrau Tomorrow’s Care a phleidleisio dros Cyflwyniad i ofal cymdeithasol

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.