Mae prentisiaethau’n cynnig ffordd i hyfforddi, datblygu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol wrth i chi weithio ac ennill cyflog.
Mae prentisiaid yn derbyn cyflog, yn union fel gweithwyr eraill. Bydd y cyflog yn dibynnu ar bethau fel oedran, profiad, sgiliau neu allu.
Mae cymwysterau prentisiaeth yn gymysgedd o ddysgu yn y swydd a phrofiad, a sgiliau cyfathrebu a rhifedd.
Mae prentisiaeth yn cymryd rhwng 18 mis a dwy flynedd i’w chwblhau.
Mae prentisiaethau’n addas ar gyfer pob oedran. Os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn ac am weithio yn y sector gofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar a gofal plant, gallai prentisiaeth fod yn lle da i gychwyn.
Mae prentisiaethau’n creu cyfleoedd i bobl ennill profiad mewn swydd. Bydd y cyflogwr yn cefnogi prentis i ennill y sgiliau angenrheidiol i wneud y swydd. Bydd hefyd yn darparu hyfforddiant gyda darparwr dysgu.
Mae’n ffordd wych i helpu i ennill y cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer y swydd.
Mae prentisiaethau’n lle gwych i ddatblygu gyrfa yn y sector gofal.
Manteision bod yn brentis:
Rydych chi’n cael eich cyflogi o’r diwrnod cyntaf gyda chyflog a gwyliau â thâl.
Byddwch yn ennill cymhwyster cenedlaethol sy’n cael ei ariannu’n llawn ac yn gallu arwain at ddatblygiad gyrfa.
Byddwch yn cael cefnogaeth ac arweiniad i ddatblygu’ch gwybodaeth a’ch sgiliau wrth weithio.
I’r rhai sy’n newydd i weithio yn y sector gofal mae’n gyfle gwych i gyfarwyddo â gweithio, dysgu sut i gymryd cyfrifoldeb a deall yr amgylchedd gwaith.
Am ragor o wybodaeth a gweld y prentisiaethau sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i: