1
00:00:04,160 --> 00:00:10,120
Roedd angen cymorth arna i gan y tîm ailalluogi
oherwydd ges i strôc ym mis Mai y llynedd,
2
00:00:10,120 --> 00:00:14,520
ac fe ddywedon nhw wrtha i yn yr ysbyty
na fyddwn i fyth yn gallu cerdded eto.
3
00:00:14,520 --> 00:00:17,520
Roeddwn i yn yr ysbyty am chwe mis,
4
00:00:17,520 --> 00:00:22,800
ac fe ddechreuodd y tîm ailalluogi
ym mis Chwefror eleni.
5
00:00:22,800 --> 00:00:26,000
Dwi wedi cael cymorth fel dysgu sut i gerdded,
6
00:00:26,000 --> 00:00:28,320
a dysgu sut i sefyll ar fy mhen fy hun.
7
00:00:28,320 --> 00:00:32,840
Dwi wedi dysgu sut i ymolchi heb
unrhyw gymorth,
8
00:00:32,840 --> 00:00:35,400
heblaw am waelod fy nghoesau a fy nghefn.
9
00:00:35,400 --> 00:00:38,040
Ond oni bai am hynny, mae wedi bod yn wych.
10
00:00:38,040 --> 00:00:42,880
Mae’r tîm ailalluogi wedi rhoi’r hyder
i mi allu coginio.
11
00:00:42,880 --> 00:00:46,480
Dim ond 50 oed ydw i, 49 sori, dwi’n 50 eleni,
12
00:00:46,480 --> 00:00:49,800
ac mi fyddwn i’n hoffi cael swydd
13
00:00:49,800 --> 00:00:52,280
oherwydd roeddwn i’n gweithio gyda phlant
ac roeddwn i wrth fy modd.
14
00:00:52,280 --> 00:00:54,200
Felly hoffwn gael swydd arall,
15
00:00:54,200 --> 00:00:59,760
ond mi ges i gymorth y tîm ailalluogi
a’r hyder i allu gwella
16
00:00:59,760 --> 00:01:02,200
ac wedyn efallai y gallaf chwilio am waith.
17
00:01:02,200 --> 00:01:08,480
Mae’r gwasanaeth ailalluogi wedi rhoi’r
hyder i ni sefyll wrth ei hymyl
18
00:01:08,480 --> 00:01:15,080
wrth iddi drosglwyddo a dilyn y
tu ôl iddi wrth iddi gerdded.
19
00:01:15,080 --> 00:01:18,120
Mae wedi rhoi llawer o hyder i fy
mrawd a finnau
20
00:01:18,120 --> 00:01:22,000
oherwydd doedden ni ddim yn siŵr
beth oedden ni’n ei wneud i ddechrau.
21
00:01:22,000 --> 00:01:26,960
Mae’r gwasanaethau ailalluogi wedi cael effaith fawr
oherwydd nawr rydyn ni’n teimlo llai o straen am mam.
22
00:01:26,960 --> 00:01:30,640
Pan mae fy mrawd yma hefyd,
mae’n gwybod beth i’w wneud nawr.
23
00:01:30,640 --> 00:01:33,440
Mae’r gwasanaeth ailalluogi wedi
rhoi tawelwch meddwl i ni am mam.
24
00:01:33,440 --> 00:01:36,400
Felly rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n ddiogel,
beth bynnag mae hi’n ei wneud.
25
00:01:36,400 --> 00:01:38,880
Mae’r tîm ailalluogi yn bwysig i mi,
26
00:01:38,880 --> 00:01:44,800
Oherwydd maen nhw’n fy ngalluogi
i goginio
27
00:01:44,800 --> 00:01:49,080
cacennau, bwyd, rhoi’r
holl gynhwysion i mewn,
28
00:01:49,080 --> 00:01:53,080
ac yna eu cymysgu, gallaf roi
dau beth gwahanol i mewn
29
00:01:53,080 --> 00:01:54,600
a bydd y bechgyn yn ei goginio.
30
00:01:54,600 --> 00:01:58,880
Mae’r gwasanaeth ailalluogi wedi fy ngalluogi
31
00:01:58,880 --> 00:02:03,000
i fod yn hyderus ac i fwrw ymlaen,
32
00:02:03,000 --> 00:02:06,640
i wneud pethau fel cerdded ac ymolchi.
33
00:02:06,640 --> 00:02:08,520
Ond mae’r pethau bach hynny
34
00:02:08,520 --> 00:02:12,680
yn golygu llawer i un person,
ond gallai fod yn ddim byd i rywun arall.
35
00:02:12,680 --> 00:02:15,600
Felly dyna mae ailalluogi wedi’i wneud i mi.