Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

05 Medi 2022

Pwysigrwydd y Gymraeg yn y gwaith.

O ganlyniad i ddeddfwriaeth a datblygiadau ym maes polisi iaith, mae angen i ddarparwyr gwasanaethau gymryd camau rhesymol i sicrhau bod ganddynt drefniadau staffio cymesur, priodol a digonol ar waith i ddarparu gwasanaeth gofal dwyieithog. Trwy wella sgiliau a gwybodaeth iaith Gymraeg y gweithlu, a’i ddealltwriaeth o ddwyieithrwydd, bydd modd helpu i ddarparu gwasanaethau gofal gwell i bawb.

Mae deddfwriaeth a pholisi yng Nghymru yn nodi bod angen sicrhau’r canlynol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg ym maes gofal cymdeithasol:

  • eu bod o’r un safon a’u bod ar gael mor hawdd ac mor brydlon â gwasanaethau Saesneg
  • eu bod mor eang a thrylwyr
  • ni ddylai sefydliadau ragdybio mai Saesneg yw’r iaith ddiofyn wrth ddarparu eu gwasanaethau
  • ni ddylai siaradwyr Cymraeg orfod gofyn am wasanaeth yn y Gymraeg.

 

Dyma rai dolenni defnyddiol i safonau, cynlluniau ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Gwybodaeth am hawliau, cynlluniau iaith Gymraeg, a chanllawiau i helpu i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.

– Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Comisiynydd y Gymraeg
Iaith.cymru.

Beth yw Mwy na Geiriau?

‘Mwy na Geiriau’ yw Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ei nod yw:

  • sicrhau bod anghenion iaith siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu
  • darparu gwasanaethau Cymraeg i’r rhai sydd eu hangen
  • dangos bod iaith yn rhan bwysig o ansawdd gofal ac nad yw’n cael ei hystyried yn elfen “atodol”.

Mae gan siaradwyr Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg gyfraniad i’w wneud i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi pedwar grŵp blaenoriaeth y mae gwasanaethau Cymraeg yn bwysig iawn iddynt. Y grwpiau yw:

  • plant
  • pobl hyn
  • pobl ag anableddau dysgu
  • pobl â phroblemau iechyd meddwl.

Mae’r grwpiau blaenoriaeth hyn yn agored iawn i niwed os nad ydyn nhw’n derbyn gofal yn eu dewis iaith.

 

Beth yw’r ‘Cynnig Rhagweithiol’?

Ystyr y ‘Cynnig Rhagweithiol’ yw darparu gwasanaeth yn y Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Dylai gwasanaethau Cymraeg fod ar gael i ddefnyddwyr yn yr un modd â gwasanaethau Saesneg..

Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg mewn ffordd ragweithiol yn sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a’u diwallu a bod y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau gofal yn gwybod y byddant yn cael eu trin â’r urddas a’r parch y maent yn eu haeddu.

Os nad yw gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig mewn ffordd ragweithiol, gallai hynny effeithio ar urddas a pharch pobl.

*Ewch i’n pecyn cymorth i randdeiliaid i lawrlwytho adnoddau dysgu’r cynnig rhagweithiol*

Nod y fideo hwn yw dangos sut olwg sydd ar arfer da. Mae wedi’i gosod mewn cartref gofal preswyl i bobl hŷn ond byddai ei neges yr un fath ar gyfer lleoliadau gofal preswyl eraill. Mae hyn yn cynnwys oedolion, plant neu bobl ifanc. Mae wedi ei gynllunio ar gyfer rheolwyr ac eraill sy’n cefnogi dysgu a hyfforddi.
 

Sut i asesu sgiliau Cymraeg

Cynlluniwyd yr adnodd Sgiliau Iaith Gymraeg eich gweithlu – eu defnyddio yn effeithiol er mwyn helpu i fodloni gofynion ‘Mwy na Geiriau’ trwy helpu cyflogwyr a rheolwyr i nodi’r sgiliau Cymraeg sydd gan eu gweithlu.

Mae’r adnodd hwn yn cynnwys hunanasesiad sy’n nodi sgiliau siarad, ysgrifennu a darllen Cymraeg, o lefel sylfaenol i rugl. Mae pob lefel yn bwysig ac mae galw mawr amdanynt yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

*Ewch i’n pecyn cymorth rhanddeiliaid i lawrlwytho’r adnoddau dysgu hyn*

Adnodd hyfforddi i gefnogi gweithio’n ddwyieithog

A ‘train the trainer’ resource has been developed to support language awareness. This training has been designed for people working in health and social care, early years and childcare, and for people who are in further or higher education.

Datblygwyd adnodd ‘hyfforddi’r hyfforddwyr’ i gefnogi hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant ac ar gyfer pobl sydd mewn addysg bellach neu addysg uwch.

Bydd y cyflwyniad hwn yn gwneud y canlynol:

  • dangos ymwybyddiaeth iaith a’r ffordd orau o weithio’n ddwyieithog
  • addysgu dysgwyr ar sut i gynnig gwasanaeth gwerthfawr
  • bydd modd ei ddefnyddio fel rhan o hyfforddiant sefydlu ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

*Ewch i’n pecyn cymorth rhanddeiliaid i lawrlwytho’r adnodd Urddas, Iaith a gofal*

Mae Keneuoe yn dod o Lesotho yn wreiddiol. Symudodd i’r Bala ym 1997 a dechreuodd weithio i Gyngor Gwynedd. Yma, manteisiodd Keneuoe ar y cyfle i ddysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac erbyn 2000 roedd hi’n gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Mae hyrwyddo hawliau pobl, canolbwyntio ar unigolion a’r hyn sy’n bwysig iddynt yn rhan bwysig o waith Keneuoe. Trwy gyfathrebu â thrigolion yn eu dewis iaith, mae Keneuoe yn gallu meithrin perthynas â nhw a’u cefnogi, gan eu helpu i gynnal eu llesiant.
Mae Helen yn Arweinydd Meithrin yn Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl, ac mae’n teimlo’n angerddol am addysgu’r genhedlaeth nesaf trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi’n gyfrifol am gynllunio gweithgareddau bob dydd i helpu’r plant i ddysgu, cadw’r plant yn ddiogel a sicrhau bod y feithrinfa yn amgylchedd diogel ac addas i bawb.

Mwy o adnoddau i’ch helpu

Mwy o adnoddau i’ch helpu

Mae Cymraeg Gwaith yn darparu cwrs ar-lein di-dâl ar gyfer dechreuwyr sydd wedi ei deilwra i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i gynnal sgwrs wyneb yn wyneb gychwynnol yn y Gymraeg gyda’r bobl rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.

Mae Sgiliaith (Grŵp Llandrillo Menai) yn cynnig cyngor ymarferol ar arferion da, hyfforddiant staff ac adnoddau, er mwyn gwella sgiliau a phrofiadau dwyieithog dysgwyr.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau fel bod myfyrwyr israddedig ac ôl-radd yn gallu astudio cyrsiau addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ganddo adnoddau i gynorthwyo dysgwyr sydd ag ychydig o sgiliau Cymraeg, os o gwbl, i astudio’r cymwysterau newydd ym meysydd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Hefyd, mae’n cynnig cyrsiau ‘Prentis-iaith’ ar gyfer prentisiaid sydd ag ychydig iawn o sgiliau Cymraeg, os o gwbl, ar hyn o bryd. Maent yn galluogi prentisiaid i gwblhau rhan o’u cymhwyster trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Cynllun Iaith Gwaith  a’r bathodyn swigen oren yn dangos bod unigolyn yn gallu siarad Cymraeg.

Cyfieithu, prawfddarllen a therminoleg

If you are looking for a translator or interpreter service, visit Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru’s website for a list of competent translators and interpreters and their details.

Here are some Welsh online dictionaries to help you learn enhance your vocabulary:

Os ydych yn chwilio am gyfieithydd neu wasanaeth cyfieithu ar y pryd, ewch i wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i gael rhestr o gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd cymwys ynghyd â’u manylion.

Dyma rai geiriaduron Cymraeg ar-lein i’ch helpu chi i wella eich geirfa:

Porth termau Saesneg i’r Gymraeg a’r Gymraeg i’r Saesneg yw Termau.

Mae Cysgliad yn becyn meddalwedd sydd â dwy raglen, sef: Cysill, sy’n nodi ac yn cywiro gwallau iaith yn eich dogfennau Cymraeg, a Cysgeir, sy’n eiriadur electronig.

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyfieithu a gwirio testun di-dâl.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi casglu llawer o dermau sydd wedi cael eu bathu neu a gafodd eu defnyddio yn rheolaidd yn ystod y pandemig er mwyn cynhyrchu geiriadur bach o’r termau coronafeirws mwyaf cyffredin yn y Gymraeg. Nod yr adnodd yw helpu siaradwyr i siarad ac ysgrifennu am y clefyd yn eu hiaith eu hunain.

Apiau ar gyfer dysgu

Dyma rai Apiau Cymraeg difyr ar gyfer dysgu, sydd ar gael ar IOS ac Android.

Mentrau Iaith

Mentrau Iaith Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi gwaith 22 o Fentrau Iaith lleol ledled Cymru.

Mae’r Mentrau Iaith yn codi ymwybyddiaeth o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, trwy annog pobl i ddatblygu eu gwybodaeth a’u defnydd o’r iaith a gallu ymarfer eu sgiliau iaith mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol yn y gymuned.

Iaith Gymraeg – ymchwil, technoleg, dysgu, a chefnogi

Canolfan Bedwyr yw canolfan Prifysgol Bangor ar gyfer gwasanaethau, ymchwil a thechnoleg iaith Gymraeg.

Mae Datblygu Sgiliau Iaith yn helpu i ddatblygu hyder myfyrwyr, staff a chyflogwyr i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

Datblygwyd Enwau Lleoedd i helpu pobl i ganfod a gwirio bodolaeth enwau Cymraeg am leoedd Saesneg ac i’r gwrthwyneb.

Mae’r adnodd technolegau iaith a lleferydd yn gallu cynhyrchu ac ymateb i lais dynol (testun i lais ac adnabod llais).

Hyfforddiant

Sefydlwyd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu hyfforddiant Cymraeg. Mae’n cynnig ystod eang o hyfforddiant ar-lein, cyrsiau byr, apiau a llawer mwy.

Bwletin rhithiol ar gyfer adnoddau Cymraeg

Mae hysbysfwrdd rhithiol Cymraeg ar Padlet.com yn cynnwys adnoddau ar gyfer hyfforddiant, dysgwyr, gweithgareddau, apiau, cerddoriaeth, swyddi a llawer mwy i’ch helpu i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.

Adnoddau addysgol

OpenLearn Wales: The home of bilingual, free learning in Wales – adnodd ar gyfer pobl sydd am wybod mwy am gymdeithas a diwylliant Cymru gan gyflwyno casgliad o adnoddau addysgol di-dâl sy’n berthnasol i Gymru.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.