Dysgwch fwy am Alaw Paul
Alaw Paul
Gweithiwr Cymorth Ieuenctid
Gwynedd
Penderfynodd Alaw ei bod eisiau gweithio gyda phobl ifanc wedi cyfnod yn gwirfoddoli gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc a haf yn gweithio yn Camp America. Mae hi hefyd wedi treulio cyfnod yn gweithio fel gweithiwr cefnogi teulu i Barnado’s cyn symud i weithio fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid yng Ngwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn gweithio gyda phobl ifanc.
Cwestiwn 1: Beth yw dy swydd?
“Dwi’n addysgu pobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed mewn ysgolion ac allan yn y gymuned drwy weithio ar brosiectau gwahanol a chynnig cefnogaeth pan mae ei angen.”
Cwestiwn 2: Sut wyt ti’n cael cymorth yn dy swydd?
“Fel arfer rydw i’n gweithio allan yn y gymuned yn hytrach na mewn swyddfa, ond mae gen i gefnogaeth wych gan y tîm dros e-byst neu ar ochr arall y ffôn.”
Cwestiwn 3: Pam ei fod yn bwysig cael pobl ifanc yn gweithio mewn gofal?
“Mae gen i berthynas dda gyda’r bobl ifanc achos fy mod i hefyd yn ifanc. Maen nhw’n ymddiried ynof i, achos dydw i ddim llawer hyn na nhw a dwi’n gallu deall beth maen nhw’n mynd trwy.”
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.