Dysgwch fwy am Karen Wood
Karen Wood
Nyrs Gofal Cymdeithasol a Rheolwr Gofal Cartref
Abertawe
Dechreuodd Karen ar ei thaith gofal cymdeithasol yn 18 oed a bu’n gweithio mewn ysgol anabledd dysgu. Ar ôl blynyddoedd o ddatblygu, mae hi wedi ennill Nyrs y Flwyddyn Cymru ac wedi gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol fel Nyrs ar hyd ei gyrfa.
Cwestiwn 1: Beth yw'r peth pwysicaf sydd ei angen arnoch i weithio ym maes gofal cymdeithasol?
“Caredigrwydd. Mae angen i chi fod yn garedig.”
Cwestiwn 2: Beth yw un o'ch hoff rannau o'r swydd?
“Rydych chi'n gweithio gyda thîm o bobl sy'n caru'r hyn maen nhw'n ei wneud.”
Cwestiwn 3: Ydych chi erioed wedi bod eisiau gweithio mewn gofal?
“Roeddwn i wir eisiau bod yn Ofodwr, ond doedd dim llawer o agoriadau i berson 18 oed heb lawer o gymwysterau.”
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.