Neidio i'r prif gynnwys

Karima Alghmed

Gweithiwr Gofal Cartref

Mae Karima wedi gweithio fel gweithiwr gofal cartref ers 15 mlynedd. Yn wreiddiol o Libya, mae gan Karima radd mewn Daeareg. Fel mam sengl, aeth i ofal yn gyntaf oherwydd rhoddodd yr hyblygrwydd iddi ofalu am ei phlentyn, yn ogystal ag eraill.

Holi ac Ateb gyda Karima

Beth ydych chi'n ei garu fwyaf am eich swydd?

I mi, defnyddwyr y gwasanaeth. Maen nhw wedi dod yn rhan o fy mywyd, ac yn rhan o fy nheulu, ac i'r gwrthwyneb.

Beth ydych chi’n ei wneud o ddydd i ddydd yn eich swydd?

Ychydig bach o bopeth, a bod yn onest! Rydyn ni'n gwneud popeth - rydyn ni'n hanner nyrs, hanner person glanhau. Rydyn ni bopeth mewn un person, ond fyddwn i ddim yn ei newid o gwbl.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gyrfa mewn gofal?

Byddwn i’n dweud, ewch amdani. Does dim angen profiad arnoch i fynd i ofal, mae angen y gallu arnoch i ofalu am eraill a'u trin fel bodau dynol. Os gallwch chi wneud hynny, ni ddylech edrych yn ôl.

Mwy o straeon gofal cymdeithasol

Gofal cymdeithasol

New to care? Find out how to get started