Neidio i'r prif gynnwys

Mark Pearson

Rheolwr Hyfforddiant Craidd

Cafodd Mark ei annog i weithio yn y sector gan ffrind ar ôl colli diddordeb yn ei waith fel pobydd. Symudodd ymlaen yn gyflym o waith cymorth i hyfforddi staff newydd, ac yn ddiweddar cwblhaodd ddiploma mewn gofal i gynnig cymorth mwy uniongyrchol i oedolion sydd ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl.

Holi ac Ateb gyda Mark

Beth yw’r agwedd fwyaf gwerth chweil ar y swydd?

Un o fy hoff bethau i’w addysgu yw Cymorth Cyntaf. Mae pobl yn dod ata’ i yn aml i ddweud eu bod nhw wedi defnyddio’r sgiliau i achub bywyd, a dwi’n teimlo boddhad mawr pan mae hynny’n digwydd.

Pa gamsyniadau sydd gan bobl am y sector?

Mae pobl yn meddwl bod y gwaith yn ymwneud â dim ond gofal personol ac ymddygiad heriol, ond mae’r gwobrau’n fwy sylweddol na’r anawsterau o bell ffordd. Dwi bob amser yn meddwl y dylwn i fod wedi gwneud hyn yn gynharach o lawer.

Pa gyfleoedd sydd yna mewn gofal cymdeithasol?

Fe ddes i’n rheolwr tŷ o fewn dwy flynedd o ddechrau gweithio, felly os ydych chi eisiau symud ‘mlaen mae ‘na ddigon o opsiynau. Bydd angen gweithwyr cymorth ar bobl bob amser.

Mwy o straeon gofal cymdeithasol

Gofal cymdeithasol

New to care? Find out how to get started