Neidio i'r prif gynnwys

Prentisiaethau

Pam y dylech gynnig rhaglen brentisiaeth yn eich sefydliad.

Mae Gofalwn Cymru wedi bod yn siarad gyda chyflogwyr ledled Cymru er mwyn helpu i ddeall manteision recriwtio prentisiaid i’r sector.

Fel cyflogwr byddwch yn:

  • denu pobl ifanc brwdfrydig a’r rhai sy’n newid gyrfa
  • lleihau trosiant staff a gwella’r gyfradd gadw
  • helpu i gydbwyso gweithleoedd sy’n heneiddio
  • cynnig rhagor o gyfleoedd yn eich cwmni
  • darparu cyfleoedd i ddysgu
  • meithrin gwybodaeth, sgiliau a phrofiad pobl fel y gallant ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb
  • cyflogi mentor i gefnogi pobl wrth iddynt ddatblygu
  • meithrin a datblygu staff i dyfu o fewn gwerthoedd eich sefydliad
  • sicrhau bod y dysgwr yn cael amser gyda’i ddarparwr dysgu
  • adolygu ac arfarnu ei gynnydd gyda’r dysgwr
  • nodi cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen mewn gyrfa a chefnogi pobl i ddilyn y llwybrau hynny.

Astudiaethau achos ysgrifenedig

Mae Cyngor Ceredigion yn credu bod prentisiaethau'n dod â thalent newydd i mewn i'r gweithlu ac yn cefnogi pobl i aros yng Ngheredigion. Gallai eu prentisiaid fod yn rheolwyr y dyfodol, ac maen nhw'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi eu cynnydd yn y cyngor.

Dyma ychydig o arweiniad pellach ar brentisiaethau:

Canllawiau i gyflogwyr

Dysgwch fwy am redeg prentisiaethau o fewn eich sefydliad, y buddion, y cyllid a'r cymhwysedd, lefelau prentisiaeth a sut i recriwtio.

Canllawiau i awdurdodau lleol

Dysgwch fwy am redeg prentisiaethau a sut y gall awdurdodau lleol recriwtio prentisiaid neu hyfforddi staff presennol gan ddefnyddio prentisiaethau.

Cyflogi prentis

Ewch i Busnes Cymru am fwy o wybodaeth am gefnogaeth i recriwtio a chyflogi eich prentis.

Gwybodaeth ar gyfer ardystio darparwyr dysgu

Gwybodaeth am rôl Gofal Cymdeithasol Cymru ac Ardystio Prentisiaethau Cymru.

Canllaw lleoliadau prentisiaid gofal cymdeithasol

Mae’r canllaw hwn yn cynghori rheolwyr ynglŷn â sut i ddarparu’r gefnogaeth orau bosibl i’w prentisiaid sy'n gwneud cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefelau 2 a 3 oedolion a phobl ifanc mewn gweithle cynhwysol. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod prentisiaid yn cyrraedd eu potensial llawn.