Neidio i'r prif gynnwys

Prentisiaethau

Pam y dylech gynnig rhaglen brentisiaeth yn eich sefydliad.

Mae Gofalwn Cymru wedi bod yn siarad gyda chyflogwyr ledled Cymru er mwyn helpu i ddeall manteision recriwtio prentisiaid i’r sector.

Fel cyflogwr byddwch yn:

  • denu pobl ifanc brwdfrydig a’r rhai sy’n newid gyrfa
  • lleihau trosiant staff a gwella’r gyfradd gadw
  • helpu i gydbwyso gweithleoedd sy’n heneiddio
  • cynnig rhagor o gyfleoedd yn eich cwmni
  • darparu cyfleoedd i ddysgu
  • meithrin gwybodaeth, sgiliau a phrofiad pobl fel y gallant ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb
  • cyflogi mentor i gefnogi pobl wrth iddynt ddatblygu
  • meithrin a datblygu staff i dyfu o fewn gwerthoedd eich sefydliad
  • sicrhau bod y dysgwr yn cael amser gyda’i ddarparwr dysgu
  • adolygu ac arfarnu ei gynnydd gyda’r dysgwr
  • nodi cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen mewn gyrfa a chefnogi pobl i ddilyn y llwybrau hynny.

Astudiaethau achos ysgrifenedig

Mae Cyngor Ceredigion yn credu bod prentisiaethau'n dod â thalent newydd i mewn i'r gweithlu ac yn cefnogi pobl i aros yng Ngheredigion. Gallai eu prentisiaid fod yn rheolwyr y dyfodol, ac maen nhw'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi eu cynnydd yn y cyngor.

Dyma ychydig o arweiniad pellach ar brentisiaethau:

Canllawiau i gyflogwyr

Dysgwch fwy am redeg prentisiaethau o fewn eich sefydliad, y buddion, y cyllid a'r cymhwysedd, lefelau prentisiaeth a sut i recriwtio.

Canllawiau i awdurdodau lleol

Dysgwch fwy am redeg prentisiaethau a sut y gall awdurdodau lleol recriwtio prentisiaid neu hyfforddi staff presennol gan ddefnyddio prentisiaethau.

Cyflogi prentis

Ewch i Busnes Cymru am fwy o wybodaeth am gefnogaeth i recriwtio a chyflogi eich prentis.

Gwybodaeth ar gyfer ardystio darparwyr dysgu

Gwybodaeth am rôl Gofal Cymdeithasol Cymru ac Ardystio Prentisiaethau Cymru.