Neidio i'r prif gynnwys
Gofal plant

01 Tachwedd 2021

Enillydd Plant Gofalwn

 

Lansiwyd cystadleuaeth ar Instagram i ddod o hyd i’r timau gofal plant, y darparwyr chwarae a’r gwarchodwyr plant sy’n mynd yr ail filltir i’r plant sydd dan eu gofal yng Nghymru.

Ar 15 Hydref, yn dilyn pleidlais gyhoeddus, cafodd Gaynor Richards ei choroni’n enillydd cystadleuaeth gyntaf Gofalwn Plant.

Gwarchodwr Plant o Landysul yw Gaynor Richards. Fe’i henwebwyd gan Llinos Dafydd, rhiant un o’r plant y mae hi’n gofalu amdanyn nhw:

Gofal o’r galon – dyna gewch chi gan Gaynor Richards. Mae hi’n amyneddgar, yn dosturiol ac yn wirioneddol wych, ac mae fy merch fach wrth ei bodd yn mynd ati. Mae pawb yn ei gofal yn rhan o’i theulu, ac mae hi’n cael y gorau allan o bob plentyn. Gyda degawdau o brofiad, mae llawer o deuluoedd yn ardal Llandysul wedi cael y fraint o gael gofal cariadus a chynnes Gaynor.
Mae hi’n rhoi strwythur i ddiwrnod y plant – ond mae hi’n rhoi digon o ryddid hefyd i ddatblygu eu hyder, eu herio a’u meithrin yn ddiogel.
Mae gofal Gaynor yn anhygoel, ac mae hi bob amser yn greadigol iawn gyda’i gweithgareddau fel teithiau cerdded natur a dysgu drwy chwarae.
Heb os, mae Gaynor yn anhygoel ac yn gwneud gwyrthiau wrth helpu’r plant sydd yn ei gofal i ddatblygu yn unigolion ystyriol, creadigol a chariadus. Gofalwr sy’n mynd yr ail filltir heb os nac oni bai. Mae fy merch fach yn wên o glust i glust yn mynd ati. Gaynor, y gorau. Diolch amdani.

 

Llwyddodd y beirniaid i gael yr enwebiadau i lawr i bump ar gyfer y rownd derfynol. Dyma beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud am ein henillydd:

Maggie Kelly, Cadeirydd y Rhwydwaith Blynyddoedd Cynnar:

Roedd yn fraint gweld yr holl enwebiadau gwych ar gyfer Gofalwn Plant, Cystadleuaeth Ddiweddar ar Instagram. Roedd pob enwebiad yn llawn haeddu’r wobr felly roedd llunio rhestr fer o bump yn unig yn dasg anodd ond rydw i’n falch iawn o weld bod 783 wedi hoffi Gaynor Richards, a gydnabyddir am ddarparu ‘Gofal o’r galon’, gan sicrhau dim llai na 783 o bleidleisiau. Llongyfarchiadau Gaynor!

Matt Anthony, Llysgennad Gofalwn:

Llongyfarchiadau i Gaynor Richards ar ei llwyddiant haeddiannol. Gobeithio eich bod yn brysur yn dathlu’r gydnabyddiaeth am y degawdau o gefnogaeth y mae teuluoedd wedi’u cael a’r gofal o ansawdd uchel rydych wedi’i ddarparu i blant Llandysul.

Ar ôl bod yn rhan o’r panel cystadlu, roedd darllen am yr holl waith gwych sy’n digwydd yn y sector blynyddoedd cynnar wedi fy ysbrydoli, yn enwedig y gwaith yn ystod y 18 mis diwethaf. Hoffwn ddiolch i’r pump a gyrhaeddodd y rownd derfynol am yr ymroddiad y maen nhw wedi’i ddangos i’w plant a’u teuluoedd. Wrth ddarllen yr enwebiadau gan y rhieni/gofalwyr sy’n defnyddio’ch gwasanaethau, roedd yn amlwg bod gennych ran eithriadol o bwysig ym mywydau’r bobl ifanc sydd yn eich gofal ac roedd hi’n glir bod y pethau bychain a wnewch, yn air neu weithred, wedi cael effaith aruthrol ar ansawdd y gofal a roddwch a’r ansawdd bywyd y mae eich plant yn ei brofi, diolch i chi.   

 

Cawsom gyfle i gael sgwrs â Gaynor er mwyn gweld sut beth yw bod yn Warchodwr Plant ac i gael gwybod sut y bu’n dathlu ei buddugoliaeth…

Sut wnest ti ddechrau arni fel Gwarchodwr Plant?

Dwi wedi bod yn Warchodwr Plant ers 30 mlynedd. Dwi wedi gofalu am 45 o blant i gyd, ac mae’r hynaf bellach yn 28 oed.

Ar ôl cael fy mhlentyn cyntaf, dechreuais helpu ffrind a ddatblygodd hynny wedyn i ofalu am blant ffrind arall. Gan fy mod i wedi cael fy ngeni a’m magu yn Llandysul, dwi wedi gwneud cysylltiadau drwy ffrindiau a’r ysgol leol ac felly doedd dim angen hysbysebu erioed.

Os gwnewch chi eich gwaith yn dda, dwi’n credu y bydd pobl yn dod i wybod amdanoch chi, a dyna sut dwi wedi bod mor llwyddiannus.

 

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy swydd?

Dwi wrth fy modd yn gweithio gyda phlant, a’u helpu i ddysgu drwy chwarae a gwaith crefft. Dwi wrth fy modd yn byw bywyd iach drwy wneud y gorau o’r awyr agored, mae hyn yn gwneud y swydd yn amrywiol ac yn ddiddorol iawn.

Dwi’n mwynhau bod yn feistres arna i fy hun, ac mae’n bleser helpu rhieni eraill. Ond yn bennaf oll, mae bywyd yn llawn hapusrwydd pan fyddwch chi yng nghwmni plant.

 

Sut berthynas sydd gen ti gyda’r rhieni?

Gan fod bywyd mor anodd bellach, dwi bob amser yma i deuluoedd y plant, boed hynny i newid dyddiadau ar y funud olaf neu i ofalu am blentyn am ddiwrnod ychwanegol. Dim ond codi’r ffôn sydd raid.

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i rywun sy’n ystyried bod yn Warchodwr Plant?

Dwi’n credu ei bod hi’n hanfodol bod gennych chi brofiad o ofalu am blant ar gyfer y rôl hon. Os ydych chi’n ystyried cychwyn eich busnes eich hun, mae yna ddigon o grwpiau ac elusennau sy’n barod i’ch helpu a chydweithio â chi.

 

Sut deimlad yw ennill cystadleuaeth Gofalwn Plant?

Mae’n deimlad gwych! Mae’n fraint ac yn anrhydedd i mi bod rhiant wedi fy enwebu.

 

Sut wnest ti ddathlu?

Ddydd Iau diwethaf, daeth tua 25 o blant a’u rhieni ynghyd i ddathlu. Roedd yn anhygoel eu gweld i gyd. Dwi’n cadw albwm lluniau o’r holl blant dwi wedi gofalu amdanyn nhw, ac fe wnes i fynd ag ef gyda mi i ddangos i bawb.

 

Ewch i’n tudalen Instagram i weld pawb a gyrhaeddodd rownd derfynol Gofalwn Plant.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.