Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Sylwch y bydd ein swyddfa ar gau o ddydd Gwener 20 Rhagfyr tan ddydd Llun 6 Ionawr.

Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwn yn gallu delio ag unrhyw ymholiadau. Diolch am eich dealltwriaeth.

Gofal plant

06 Chwefror 2024

Ein cwrs gofal plant yn rhan o brosiect peilot gydag ysgolion Cymru

Disgyblion o Ysgol Uwchradd Cwmbrân gyda staff Gofal Cymdeithasol Cymru. Pupils from Cwmbran High School with Social Care Wales staff.

Mae ein peilot i hyrwyddo gyrfaoedd yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant fel gyrfa werthfawr a gwerth chweil i bobl ifanc bellach ar y gweill.

Ysgol Uwchradd Cwmbrân yw’r ysgol gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan mewn prosiect peilot i gynnig cwrs gofal plant i ddisgyblion ysgol uwchradd. Cynhaliodd yr ysgol dair gwers, un awr yr un, yr wythnos hon, i 90 o ddisgyblion o flynyddoedd naw, 10 ac 11 sy’n astudio cwrs TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Fel rhan o'n gwrs Cyflwyniad i ofal plant gofal cymdeithasol Cymru, fe fu’r disgyblion yn edrych ar destunau fel datblygiad plant, iechyd a diogelwch a gweithgareddau chwarae a dysgu i blant.

Introduction to childcare logo. Logo Cyflwyniad i ofal plant

Nod y cynllun peilot yw annog disgyblion i ystyried cofrestru ar y cwrs Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant yn y coleg, sy’n gallu arwain at gymhwyster fel gwarchodwr plant neu ymarferydd mewn meithrinfa.

Daw hyn wedi i adolygiad annibynnol o warchod plant yng Nghymru ganfod bod gofyn cynyddu nifer y gwarchodwyr plant yn y sector, yn ogystal â chefnogi’r rheiny sydd eisoes yn gweithredu, er mwyn sicrhau bod modd cynnig mwy o leoedd gofal plant. Roedd yr adolygiad hefyd yn amlygu buddion mynd ar drywydd gyrfa fel gwarchodwr plant, er enghraifft y cyfle i fod yn hunangyflogedig, gweithio gartref a gweithio’n hyblyg.

Meddai Alyssa Hart, disgybl o flwyddyn 11 sy’n gobeithio astudio Gofal Plant ym Mharth Dysgu Torfaen, “Roeddwn i wrth fy modd â’r gwersi a dw i wedi dysgu llawer am yr hyn y mae gwarchodwyr plant yn ei wneud a sut y maen nhw’n helpu plant i dyfu ac i ddysgu. Dw i’n credu y byddai’n swydd wych i fi oherwydd dw i wrth fy modd â phlant ac eisiau gwneud gwahaniaeth positif i’w bywydau.”

Meddai Evie Parry, disgybl o Flwyddyn 11, “Roedd y sesiwn yn ddifyr iawn ac yn rhyngweithiol a ges i ddealltwriaeth well o’r sgiliau a’r wybodaeth y mae eu hangen i weithio ym maes gofal plant. Dw i’n credu bod hwn yn opsiwn da i fi oherwydd fe allaf weithio gartref a gweithio oriau hyblyg.”

Mae chwe ysgol yng Nghymru yn rhan o’r cynllun peilot, ond Ysgol Uwchradd Cwmbrân yw’r ysgol gyntaf i’w dreialu. Fe fydd sesiynau ar-lein ar gael hefyd, a bydd cyrsiau hyfforddi’r hyfforddwr sy’n targedu athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol mewn ysgolion hefyd yn cael eu cynnig.

Meddai Pennaeth Ysgol Uwchradd Cwmbrân, Matthew Sims: “Rydyn ni wrth ein boddau i fod yn rhan o’r cynllun peilot hwn ac i gynnig y cyfle i’n disgyblion i archwilio gofal plant fel opsiwn gyrfa. Credwn fod gwarchod plant yn broffesiwn gwerthfawr a gwerth chweil sy’n gallu bod o fudd i’r plant a’r gymuned. Gobeithiwn y bydd y cynllun peilot hwn yn ysbrydoli mwy o bobl i ystyried gwarchod plant fel gyrfa ac i fynd ar drywydd addysg bellach a hyfforddiant yn y maes hwn.”

Fe fydd Gyrfa Cymru yn arwain y fenter newydd hon ac yn parhau i hwyluso’r cysylltiadau rhwng gyrfaoedd a’r cwricwlwm.

Meddai Georgia Hadley, Cynghorydd Ymgysylltu â Busnesau gyda Gyrfa Cymru: “Mae’r sesiynau gan Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cyfoethogi’r pwnc Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân ac wedi ysbrydoli ac ysgogi myfyrwyr i feddwl am gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol yn y sector.

“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi hwyluso’r bartneriaeth hon a byddwn yn parhau i weithio gydag Ysgol Uwchradd Cwmbrân a chyflogwyr lleol i feithrin cysylltiadau rhwng gyrfaoedd a’r cwricwlwm.”

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.