Ffordd newydd a hawdd o gyhoeddi swyddi gwag ar ein porth swyddi
Cyflogwyr gofal cymdeithasol, rydym wedi ei gwneud hi’n haws i chi restru’ch swyddi gofal cymdeithasol cyfredol ar ein porth swyddi.
Nawr yn fwy nag erioed, mae angen pobl i ddarparu gofal a chefnogaeth i’r rhai sy’n agored i niwed yn ein cymunedau.
Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r bobl iawn i lenwi’ch swyddi gwag a chefnogi’ch busnes, rydym wedi creu ffurflen syml i chi ei llenwi ar ein gwefan.
Er mwyn i hyn ddigwydd, bydd angen y manylion canlynol arnoch:
- Teitl swydd
- Disgrifiad byr o’r swydd wag
- Lleoliad
- Tudalen swyddi gwefan / gwefan / dolen Facebook
- Trosolwg byr o’ch busnes
- Rhif Ffôn
- Cyfeiriad ebost.
Mwy o erthyglau newyddion
Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.