Cael swydd mewn gofal cymdeithasol
Ydych chi’n barod am yr her? Dysgwch fwy o’r astudiaethau achos isod.
Catrin Jones Williams
Camau Bach Mudiad Meithrin
Darparu gofal tosturiol a meddylgar i blant meithrin yw angerdd a phwrpas Catrin.
Gan ddisgrifio ei rôl fel braint, mae rheolwr Camau Bach yn esbonio sut y cyflymodd ei phrentisiaeth ei gyrfa a'i galluogi i drosglwyddo i rôl gofal uwch.
Wedi'i gyrru gan ymroddiad gwirioneddol i ofalu am blant a'u teuluoedd, gwnaeth Catrin gydnabod bod angen iddi adnewyddu ei set sgiliau presennol i weddu i leoliad meithrinfa ac ymgymerodd â Phrentisiaeth Lefel 3.
Darparodd yr hyfforddiant gefndir mewn addysg feithrin iddi a rhoddodd y sgiliau angenrheidiol iddi gefnogi ei thîm.
Mae ei hysfa i wneud gwahaniaeth a’i hagwedd ymroddedig yn gwneud Catrin yn ased i’r sector gofal.
Helen Greenwood
Arweinydd Meithrinfa
Mae Helen yn Arweinydd Meithrinfa yn Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl ac mae hi’n frwdfrydig dros addysgu’r genhedlaeth nesaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi’n gyfrifol am gynllunio gweithgareddau dyddiol i helpu’r plant i ddysgu, cadw’r plant yn ddiogel a sicrhau bod y feithrinfa yn amgylchedd diogel ac addas i bawb.
Amanda Calloway
Gwarchodwr Plant
Ar ôl cael plant, roedd Amanda eisiau symud 'mlaen o’i gyrfa mewn bancio. Dewisodd fod yn warchodwr plant oherwydd yr hyblygrwydd. Ochr yn ochr â’i gyrfa fel gwarchodwr plant, gan weithio o gartref, astudiodd Amanda am radd yn y Blynyddoedd Cynnar a chymhwyster rheoli Lefel 5.
Ann Davies
Cyd-berchennog Meithrinfa Cwtsh Y Clos
Mae Ann Davies gweithio gyda phlant erioed ac roedd yn Athrawes Gerdd Peripatetig cyn cymhwyso fel Ymarferydd Gofal Plant. Dechreuodd y Cwtch y Clos yn 2014 i gynnig gofal plant i deuluoedd. Mae'r meithrinfa yn cynnwys amgylchedd awyr agored, anifeiliaid ac ethos fferm fel rhan o ofal y plant.
Janet Smith
Gofalwr Cysylltu Bywydau
Mae Janet wedi bod yn ofalwr ers 21 mlynedd ac ar hyn o bryd mae'n gofalu am ddau frawd Medwyn a Gareth. Mae byw gyda Janet yn golygu eu bod yn cael byw mor annibynnol â phosibl, fel rhan o gymuned.
Amy
Gofalwr
Mae Amy yn gweithio mewn cartref preswyl yn Ynys Môn ac yn trafod pwysigrwydd defnyddio'r Gymraeg yn ei gwaith a sut fod unrhyw lefel o'r Gymraeg yn fantais fawr i'r sector gofal.
Uchenna Chukwuoma
Cynorthwy-ydd Gofal
Daeth Uchenna o Nigeria i ddechrau gweithio fel gyrrwr danfon nwyddau oherwydd ei fod yn mwynhau siarad â phobl. Ond ar ôl iddo ddarganfod gwefan Gofalwn Cymru, fe ddechreuodd ei yrfa fel gweithiwr gofal ac mae’n defnyddio ei sgiliau pobl i wella bywydau’r rhai sydd yn ei ofal.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.