Neidio i'r prif gynnwys

Gofal Plant yn y Cartref

Gofal plant yn y cartref yw lle mae plant yn derbyn gofal mewn amgylchedd yn y cartref. Gallai hyn fod yn eu cartrefi eu hunain, gyda nani, er enghraifft, neu yng nghartref gwarchodwr plant.

Carer playing with a child

Gwybodaeth am ofal plant yn y cartref

Gofal plant yn y cartref yw pan fydd rhieni’n dewis gofalu am eu plant yn y cartref, naill ai mewn cartref gwarchodwr plant neu yn eu cartref eu hunain yn derbyn gofal gan nani.

Mae nanis yn darparu gofal i un neu fwy o blant mewn cartref teulu ac fe’u cyflogir drwy gontract personol gyda rhieni. Efallai y byddant yn byw yn y cartref, a bydd hyn yn dibynnu ar anghenion y teulu.

Mae Gwarchodwyr Plant yn hunangyflogedig ac wedi’u cofrestru i ddarparu gofal i blant dan 12 oed am fwy na dwy awr y dydd, yng nghartref y gwarchodwr plant.

Rheoleiddio cymorth yn y cartref

Rhaid i warchodwyr plant fod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a cheir cynllun cymeradwyaeth wirfoddol at ddiben cofrestru nanis. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Edrychwch ar rai o'r swyddi y gallech chi eu gwneud ym maes gofal yn y cartref

Fel Gwarchodwr Plant cofrestredig, byddwch yn darparu gofal ar gyfer plant dan 12 oed am fwy na dwy awr y dydd yn eich cartref eich hun.

Mae nanis yn darparu gofal i un neu fwy o blant yn y cartref teuluol fel gwasanaeth.