Neidio i'r prif gynnwys

Gosodiadau gwaith chwarae

Mae'r lleoliad chwarae yn cynnwys amrywiaeth o leoliadau sy'n cynnig amgylchedd diogel, cynhwysol ac ysgogol i blant chwarae, dysgu a ffynnu y tu allan i oriau ysgol ac yn ystod gwyliau.

Mathau o leoliadau gwaith chwarae a reoleiddir

Gofal plant y tu allan i oriau ysgol - mae hyn yn cyfeirio at ofal plant y tu allan i ddiwrnod ysgol amser llawn y plentyn ac mae’n cynnwys gofal a ddarperir cyn amser ysgol, ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol ar gyfer plant hyd at 14 oed. Mae’n galluogi rhieni / gofalwyr i ddychwelyd i’r gwaith neu hyfforddiant a phlant i fwynhau darpariaeth o safon sy’n canolbwyntio ar chwarae sydd wedi ei staffio gan weithwyr chwarae cymwysedig. Mae enghreifftiau o hyn yn cael eu hadnabod fel clybiau brecwast, clybiau cinio, clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau.

Gwaith chwarae mynediad agored - gall hwn fod yn ddarpariaeth parhaol neu dros dro, wedi ei leoli mewn amrywiol leoliadau gyda neu heb adeilad a gall gynnwys cynlluniau chwarae gwyliau ysgol, clwb ieuenctid, a gweithgareddau yn y parc. Y bwriad yw darparu cyfleoedd chwarae wedi eu staffio ar gyfer plant, gan amlaf yn absenoldeb eu rheini.

Cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau ysgol - sefydlir y rhain yn benodol i ddarparu cyfleodd i chwarae’n ystod gwyliau’r ysgol. Gallant ddewis gweithredu fel gwaith chwarae mynediad agored neu ofal plant y tu allan i oriau ysgol, yn dibynnu ar y model trosglwyddo a ddewisir. Ble fo mathau eraill o ddarpariaeth yn bodoli sydd ddim yn dod o dan y gorchymyn eithriadau cyfredol, megis grwpiau ieuenctid iau neu glybiau ysgolion coedwig dros y gwyliau, sy’n agored am fwy na dwy awr, cânt eu rheoleiddio fel un o’r uchod.

Sut maen nhw'n cael eu rheoleiddio

Mae angen i ddarparwyr unrhyw leoliad sy'n gweithredu am dros ddwy awr y dydd gofrestru gyda Gwasanaeth Archwilio Gofal Cymru; oni bai eu bod yn gweithredu o dan orchymyn eithriad.

Edrychwch ar rai o'r swyddi y gallech chi eu gwneud ym maes gofal yn y cartref

Fel Gweithiwr Chwarae, byddwch yn gyfrifol am gefnogi a hwyluso cyfleoedd i blant chwarae.

Fel Rheolwr Chwarae, byddwch yn gyfrifol am gefnogi a hwyluso cyfleoedd i blant chwarae,