Neidio i'r prif gynnwys

Gwaith Cymdeithasol

Fel Gweithwyr Cymdeithasol, eich nod chi fydd gwella bywydau pobl rydych chi’n gweithio gyda nhw. Byddwch chi’n cefnogi pobl drwy anawsterau cymdeithasol a phersonol, ar yr un pryd â hyrwyddo eu hawliau dynol a’u lles.

Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw

Byddwch chi’n gweithio gyda rhai o’r unigolion hyn, gan gefnogi eu perthnasoedd â’u teuluoedd, grwpiau a chysylltiadau â’u cymuned. Byddwch chi’n eu helpu i adnabod eu cryfderau, datblygu eu sgiliau a gweithio ar broblemau neu heriau y gallent fod yn eu hwynebu.

Dyma rywfaint o wybodaeth ychwanegol am rai o’r bobl hynny: 

Bod yn Weithiwr Cymdeithasol

Fel Gweithiwr Cymdeithasol byddwch yn cynnal asesiadau i ddeall a oes angen gofal a chymorth ar bobl ac yn gweithio gydag unigolion, gofalwyr a theuluoedd i lunio ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth. Byddwch yn cadw cofnodion, yn ysgrifennu adroddiadau, yn mynd i’r llys, yn goruchwylio aelodau’r tîm, ac yn cynnig gwybodaeth a chyngor i unigolion a gweithwyr proffesiynol eraill.

I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen y canlynol arnoch chi:

  • sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da
  • ymagwedd hyblyg at waith a’r gallu i weithio’n dda mewn tîm
  • y gallu i feddwl yn feirniadol a bod yn greadigol a datrys problemau
  • y gallu i feithrin perthnasoedd effeithiol a datblygu cysylltiad
  • y gallu i addasu i amgylchiadau sy’n newid
  • pwyll, empathi ac amynedd
  • agwedd anfeirniadol
  • tosturi, cydnerthedd a pharodrwydd i ddelio â sefyllfaoedd anodd
  • sgiliau rheoli amser a gweinyddol da
  • llythrennedd cyfrifiadurol
  • y gallu i ddeall ac ymgymryd â dyletswyddau cyfreithiol
  • gwneud penderfyniadau annibynnol.

Cymwysterau Gofynnol

Lefel gradd. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cymwysterau gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae gwybodaeth am arian ar gyfer graddau gwaith cymdeithasol ar gael yma.

Dechrau arni fel Gweithiwr Cymdeithasol

Gallwch astudio gwaith cymdeithasol ar lefel gradd neu ôl-radd, a bydd angen i chi ddysgu am y gyfraith, polisi a theori gwaith cymdeithasol wrth ennill eich cymwysterau. Mae prifysgolion yn rhedeg rhaglenni mewn partneriaeth â gwasanaethau gwaith cymdeithasol awdurdodau lleol.

Y prifysgolion yng Nghymru sy’n cynnig gradd israddedig

Prifysgolion Cymru sy’n cynnig gradd Meistr

  • Prifysgol Bangor - Gradd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol
  • Prifysgol Caerdydd - Gradd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol
  • Prifysgol Abertawe - Gradd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol

Rhaglenni hyfforddi

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym ystod o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.

Dod o hyd i swydd yn y maes gofal

Os ydych chi’n ystyried gyrfa yn y maes gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o’r math o rolau sydd ar gael.