Fel gofalwr maeth therapiwtig, byddwch yn cefnogi ymddygiad a datblygiad y plentyn.
Gofal Maeth
Mae gofal maeth yn darparu amgylchedd teulu diogel i blant nad ydynt, am lawer o wahanol resymau, yn gallu byw gyda’u teuluoedd eu hunain. Yma, rydyn ni’n nodi’n union beth mae gofalwyr maeth yn ei wneud a sut mae dod yn ofalwr maeth.
Gwybodaeth am fod yn ofalwr maeth
Mae maethu yn golygu derbyn plentyn yn rhan o’ch teulu pan fydd yn rhaid iddo fod i ffwrdd oddi wrth ei deulu ei hun. Gallai hynny fod am noson, mis, blwyddyn neu sawl blwyddyn. Mae ymroddiad i wneud gwahaniaeth wrth galon unrhyw leoliad maeth – er mwyn newid cwrs bywyd plentyn.
Rheoleiddio gofal maeth
I fod yn ofalwr maeth, byddwch yn cael eich asesu gan weithiwr cymdeithasol a’ch cymeradwyo fel gofalwr maeth gyda’ch awdurdod lleol neu asiantaeth faethu. Mae llawer o wahanol fathau o faethu ac mae’r rôl yn cael ei chategoreiddio at ddibenion treth fel pobl hunangyflogedig.
Archwilio'r gwahanol gyfleoedd gofalu maeth
Fel gofalwr maeth plant a rhieni, byddwch yn rhannu eich sgiliau magu plant â rhiant y plentyn.
Fel gofalwr maeth seibiant byr, byddwch yn gofalu am blentyn dros nos, am wythnos neu ar benwythnosau.
Fel gofalwr maeth tymor hir, byddwch yn cael eich paru â’r plentyn maeth iawn am gyhyd ag y bydd ei angen arnynt.
Fel gofalwr maeth tymor byr, byddwch yn darparu gofal i’r plentyn ac yn gweithio gyda’r tîm maethu ar y daith tuag at sicrhau’r cynllun ‘sefydlogrwydd’ tymor hir ar gyfer y plentyn neu’r unigolyn ifanc.
Archwilio rhai o rolau o fewn y gwasanaeth maethu
Fel Swyddog Recriwtio Maethu, chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer darpar ofalwr maeth.
Fel Rheolwr Tîm Maethu, chi sy’n gyfrifol am reoli’r gwasanaeth maethu.
Fel Gweithiwr Cymorth Maethu, chi sy’n gyfrifol am gysylltiadau’r gofalwr maeth â’r holl bobl gysylltiedig.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio, chi fydd y prif gyswllt rhwng y gofalwr maeth a'r gwasanaeth maethu.