Neidio i'r prif gynnwys
Gofal cymdeithasol

28 Awst 2025

Grymuso eraill drwy Waith Cymdeithasol tosturiol

Social Worker Sam

Dyma Sam Stroud, Gweithiwr Cymdeithasol ymroddedig o Gaerdydd a’r Fro, dechreuodd ei thaith i ofal cymdeithasol drwy brofiad personol dwys ac sydd bellach wedi datblygu’n yrfa wedi’i seilio ar empathi, gwydnwch, ac eiriolaeth.

O brofiad personol i bwrpas proffesiynol

Cafodd llwybr Sam i waith cymdeithasol ei ysbrydoli gan brofiad ei thaid yn yr ysbyty, lle roedd diffyg cyfathrebu a chefnogaeth wedi gadael ei theulu’n teimlo’n ddi-rym.

“Ni oedd y teulu hwnnw,” meddai,
“yn chwilio am atebion, angen arweiniad, ac heb deimlo ein bod yn cael ein clywed.”

Sbardunodd y foment hon benderfyniad yn Sam i sicrhau nad oedd teuluoedd eraill yn teimlo’r un peth.

“Hyd yn oed pe bawn i’n gallu helpu un teulu, byddai’n werth chweil.”

Dechreuodd Sam fel cynorthwyydd gwaith cymdeithasol dros dro mewn tîm ysbyty, ac yn 2011, sicrhaodd swydd barhaol gan weithio ar draws pob ysbyty yn ei hawdurdod lleol. Yn 2024, cwblhaodd ei gradd mewn Gwaith Cymdeithasol wrth weithio’n llawn amser – carreg filltir heriol ond gwerthfawr.

Eleni, symudodd Sam i rôl newydd o fewn gwasanaethau oedolion, gan ymuno â’r tîm Pwynt Cyswllt Cyntaf. Yma, mae’n cynnal asesiadau llesiant ar gyfer unigolion sy’n cael mynediad i wasanaethau oedolion am y tro cyntaf – yn aml mewn cyfnodau o fregusrwydd ac ansicrwydd. Mae ei gwaith yn cynnwys ymweliadau cartref, galwadau ffôn, cydweithio amlasiantaethol, a chefnogi’r rhai o amgylch yr unigolyn sy’n cael ei asesu.

“Rwy’n ymdrechu i sicrhau bod eu profiad cyntaf o gefnogaeth yn un cadarnhaol,” meddai Sam.
“Drwy wrando’n weithredol, cynnwys y rhai sy’n bwysig iddynt, ac eirioli ar eu rhan pan fo angen, rwy’n anelu at ddarparu gofal sy’n grymusol, tosturiol ac yn ymatebol i’w hanghenion.”

Gwneud gwahaniaeth

Un o achosion mwyaf dylanwadol Sam oedd oedolyn bregus gyda phroblemau dysgu heb eu diagnosio, a wynebodd heriau sylweddol ar ôl colli ei fam. Wedi’i adael ar ei ben ei hun mewn cartref mawr a dan faich dyledion, cafodd ei gyfeirio at Byddin yr Iachawdwriaeth.

Drwy gefnogaeth gyson a chydweithio â’i weithiwr cymorth penodedig, helpodd Sam i’w symud i amgylchedd byw mwy addas ac i gyflwyno trefnau a oedd yn cefnogi ei annibyniaeth. Adeiladodd ymddiriedaeth yn araf, gan ddefnyddio galwadau ffôn a negeseuon testun cyn cwrdd wyneb yn wyneb, a gweithio tuag at ganlyniadau ystyrlon.

Canlyniad y unigolyn oedd:

“Rwy’n gwybod y gallaf ddysgu pethau newydd… Byddaf yn gallu darparu ar gyfer fy hun a’m dyweddi'. Rwy’n mynd i fod yn ddewr!”

Gyda chefnogaeth wedi’i deilwra, dysgodd sut i goginio, rheoli tasgau cartref, a delio â gohebiaeth. Archwiliodd Sam gefnogaeth ariannol hirdymor drwy’r Friendly Trust i atal camfanteisio yn y dyfodol. Tyfodd ei hyder yn weladwy gyda phob ymweliad, ac erbyn hyn, mae’n gapten tîm snwcer ac yn mwynhau bywyd gyda’i gi 13 oed.

Pam mae Sam yn aros yn y rôl

“Does dim dau ddiwrnod yr un fath,” meddai Sam.

“Weithiau, dydy hi ddim hyd yn oed yn teimlo fel swydd, rwy’n ei fwynhau gymaint.”

Mae’n gwerthfawrogi’r grwpiau mentora a’r ymarfer cydweithredol sy’n seiliedig ar gryfderau, sy’n annog sgyrsiau ystyrlon a dysgu parhaus.

Cyngor i’r rhai sy’n ystyried gwaith cymdeithasol

“Os gallwch gysylltu â phobl, os ydych yn wrandäwr da ac yn meddu ar werthoedd ac egwyddorion cryf, gellir dysgu’r gweddill,” meddai Sam.

Cwblhaodd ei gradd yn 53 oed, heb gymwysterau blaenorol, gan brofi bod angerdd a phwrpas yn gallu goresgyn unrhyw rwystrau.

Gweledigaeth ar gyfer y dyfodol

Mae Sam yn eiriol dros gylchdroi swyddi i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso, gan gredu y byddai hyn yn ehangu eu sgiliau ac yn atal diflastod.

“Mae sectorau iechyd eisoes yn gwneud hyn - mae’n bryd i wasanaethau oedolion wneud yr un peth,” meddai Sam.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.