Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Sylwch y bydd ein swyddfa ar gau o ddydd Gwener 20 Rhagfyr tan ddydd Llun 6 Ionawr.

Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwn yn gallu delio ag unrhyw ymholiadau. Diolch am eich dealltwriaeth.

Cyffredinol

21 Chwefror 2022

Dechreuwch eich gyrfa ym maes gofal gyda phrentisiaeth.

Man looking at laptop

Mae Gofalwn Cymru wedi cyfarfod prentisiaid, cyflogwyr a darparwyr dysgu i ddeall manteision prentisiaeth ym maes gofal.

Rhwng 21 Chwefror ac 13 Mawrth 2022, byddwn yn cyfarfod prentisiaid ddoe a heddiw wrth iddyn nhw rannu eu profiadau ac egluro pam eu bod yn credu y dylech chi ennill cyflog wrth ddysgu.

Os ydych chi dros 16 oed, eisiau ennill profiad a chael eich talu, yna mae’n bosibl mai prentisiaeth yw’r opsiwn iawn i chi. Wrth weithio, byddwch yn astudio tuag at gymhwyster sy’n berthnasol i’r rôl rydych yn cael eich cyflogi i’w gwneud.

Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal ac am gael gwybod mwy am y cyfleoedd prentisiaethau sydd ar gael, ewch i’n tudalen prentisiaethau.

 
Naomi Lovesay, Prentis Cyngor Sir Fynwy

Yn 2019, helpodd Naomi i lansio Cynllun Prentisiaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cyngor Sir Fynwy er mwyn cynnig cyfle i rai â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal.

Naomi Lovesey

Defnyddiodd Naomi ei phrofiad ei hun o astudio fel ffisiotherapydd i greu dull lleoliad cylchdro fel y gallai prentisiaid ennill profiad mewn pob math o rolau amrywiol i’w helpu i ddod o hyd i’r proffesiwn cywir ar eu cyfer ym maes gofal.

Dewiswyd chwe phrentis o oedrannau amrywiol a chyda phrofiadau bywyd gwahanol ar gyfer y cynllun. O bobl ifanc 17 i 40 oed, rhai sy’n gadael yr ysgol i rai sy’n newid gyrfa, roedd y brentisiaeth yn agored i unrhyw un a allai ddangos y rhinweddau cywir fel empathi, parch a thosturi.

Meddai Naomi

“Gallwn ddysgu sgiliau penodol y rôl iddyn nhw, ond rydyn ni angen rhywun sydd â’r gwerthoedd cywir i allu darparu’r gofal gorau posibl i’n preswylwyr.”

O’r chwe phrentis hynny, mae pump bellach mewn swyddi gofal llawn amser gyda Chyngor Sir Fynwy.

Mwy o wybodaeth am Naomi yma.

Emily Free, Myfyriwr Gwaith Cymdeithasol (cyn-Brentis)

Ar ôl cwblhau ei gradd israddedig mewn Llenyddiaeth Saesneg, gwnaeth Emily gais am brentisiaeth gofal cymdeithasol er mwyn chwilio am yrfa lle gallai wneud gwahaniaeth.

Emily Free

Er nad oedd ganddi unrhyw brofiad blaenorol yn y sector, cafodd Emily brofiad ymarferol llawn lle gallai gysgodi gweithwyr proffesiynol profiadol ac uwch ymarferwyr, diolch i’w phrentisiaeth.

“Mae’r ffaith nad oes wir angen profiad arnoch cyn dechrau arni yn dweud llawer am y brentisiaeth. Rydych chi’n dysgu wrth eich gwaith. Mae’n brofiad gwerth chweil i fynd drwyddo.” meddai Emily.

“Doeddwn i byth yn teimlo fy mod i’n cael fy ngwthio i wneud pethau allan o’n nyfnder nes oeddwn i’n barod.”

Ar ôl cwblhau ei phrentisiaeth, cofrestrodd Emily ar radd Meistr mewn Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd gyda’r gobaith o gymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol.

Mwy o wybodaeth am Emily yma.

Gareth John, Gweithiwr Ieuenctid (cyn-Brentis)

Roedd Gareth wrth ei fodd yn gweithio gyda phobl ifanc, a chafodd yrfa at ei ddant fel Gweithiwr Cymdeithasol diolch i’w brentisiaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion.

Yn fuan ar ôl ymuno â’r cynllun y sylweddolodd Gareth pa mor bwysig yw rôl Gweithwyr Ieuenctid ym mywydau llawer o bobl ifanc sy’n agored i niwed.

Gareth John

Meddai

“Mae gweithio gyda phobl ifanc yn waith gwerth chweil. Ry’ch chi’n meithrin perthynas gadarnhaol â nhw. Mae’n braf eu gweld nhw’n ffynnu neu’n datblygu’n fwy hyderus a rhoi mwy o gyfleoedd iddyn nhw.”

Mae Gareth yn credu bod y profiad a gafodd yn ystod ei brentisiaeth yn gam hollbwysig i feithrin gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.

Mwy o wybodaeth am Gareth yma.

Naomi Frere, Myfyriwr Gwaith Cymdeithasol (cyn-Brentis)

Mae gan Naomi brofiad uniongyrchol o gael ei magu mewn gofal maeth, ac roedd am ddefnyddio ei phrofiadau i helpu pobl ifanc eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Naomi Frere

Wrth weithio i adran gyllid ei chyngor lleol, fe wnaeth prentisiaeth roi cyfle perffaith i Naomi ddechrau gyrfa mewn gofal cymdeithasol a pharhau i ennill cyflog yr un pryd.

Meddai Naomi

“Doeddwn i ddim mewn sefyllfa lle gallwn fynd i addysg lawn amser a pheidio ag ennill cyflog.”

“Felly roedd fy mhrentisiaeth yn caniatáu i mi ennill cyflog a’r cymhwyster roeddwn ei angen i barhau ar fy llwybr gyrfa”

Roedd y cymhwyster gafodd Naomi o’i phrentisiaeth o gymorth iddi gael pwyntiau UCAS ychwanegol i wneud cais am le ar gwrs israddedig ym Mhrifysgol De Cymru lle mae bellach ar ei thrydedd flwyddyn fel myfyriwr Gwaith Cymdeithasol.

Mwy o wybodaeth am Naomi yma.

Callum Fennell, Prentis

Ar ôl cael trafferth cadw diddordeb yn yr ysgol, cafodd Callum gymorth i gael lleoliad mewn cartref gofal lleol lle’r roedd ei barch a’i ofal i breswylwyr yn golygu ei fod yn ymgeisydd perffaith am brentisiaeth gofal cymdeithasol.

Callum Fennell

Mae hyder Callum wedi parhau i dyfu wrth iddo gamu ymlaen drwy ei gymhwyster lle cafodd gefnogaeth mentor personol sy’n gallu teilwra ei gyfrifoldebau i gynnwys gofal mwy cymhleth fel argyfyngau pan fydd yn barod.

Er gwaetha’r heriau, mae balchder a boddhad Callum yn ei waith wedi’i wreiddio yn y gwerthfawrogiad a’r diolchgarwch a ddangosir gan y preswylwyr sy’n cael gofal ganddo.

Roedd llythyr ysgrifenedig gan un preswylydd yn ei ddisgrifio fel “gofalwr naturiol”.

Mwy o wybodaeth am Callum yma.

Chloe Paterson, Gweithiwr Cymorth Cyfleoedd Dydd

Buom yn siarad â Chloe Paterson, a gwblhaodd rhaglen brentisiaeth. Mae hi’n gweithio i Gyngor Sir Rhondda fel Gweithiwr Cymorth Cyfleoedd Dydd. O ddydd i ddydd mae hi’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan adeiladu eu hannibyniaeth a dysgu sgiliau newydd iddyn nhw…

Pam oeddech chi eisiau gweithio mewn gofal?

Roeddwn i eisiau dysgu mwy am oedolion ag anableddau dysgu. Mae fy mrawd yn awtistig, ac roeddwn i eisiau cael bond cryfach ag ef.

Sut wnaethoch chi ddechrau gweithio yn y sector gofal?

Gadewais yr ysgol yn 16 oed a gwneud y cwrs llwybr yng Ngholeg Y Cymoedd. Fel rhan o’r cwrs blwyddyn roedd yn rhaid i mi wneud lleoliad mewn canolfan ddydd, lle rydw i’n gweithio ar hyn o bryd. Roedd yn rhaid i mi gwblhau asesiadau ac aseiniadau, a byddai fy nhiwtor yn dod allan i’m gwylio yn gweithio gydag unigolion.

Pam wnaethoch chi benderfynu gwneud prentisiaeth?

Pan orffennais fy nghwrs llwybr, dywedodd aelod o staff wrthyf am brentisiaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf ac anogodd fi i’w wneud.

Beth oedd yn rhaid i chi ei wneud i ennill y brentisiaeth?

Rhoddodd aelod o staff yn y ganolfan ddydd y cais i mi ac yna cysylltwyd â mi am gyfweliad.

Mae’r ceisiadau ar gael ar wefan Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Sut oedd y brentisiaeth?

Prentisiaeth dwy flynedd gwnes i, lle cwblheais fy nghymwysterau Lefel 2 a 3. Byddai fy nhiwtor yn dod i siarad â mi a fy rheolwr yn y ganolfan ddydd i weld sut roeddwn i’n dod ymlaen. Gadawyd i mi wneud fy ngwaith ac ni theimlais erioed fod unrhyw un ar fy achos.

Fe allwn i fod wedi gwneud fy astudio yn ystod fy oriau gwaith, ond wnes i ddim, roeddwn i bob amser yn astudio gyda’r nos. Fe wnes i fwynhau fy rôl yn rhyngweithio gyda’r unigolion yn fy ngofal, gan eu gwylio nhw’n tyfu a datblygu.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried prentisiaeth mewn gofal?

Yn bendant ewch amdani! Mae’n werth chweil. Rydych chi’n cael eich talu i ddysgu ac mae yna lawer o gefnogaeth.

Nid oeddwn i’n hoffi’r ysgol, rwy’n ymarferol a ddim yn mwynhau’r ystafell ddosbarth felly roedd cael y brentisiaeth wedi fy helpu’n aruthrol.

Lleucu Edwards, Arweinydd Cylch Meithrin Eco Tywi

Buom yn siarad â Lleucu Edwards, sydd newydd orffen ei phrentisiaeth Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant drwy gyfrwng y Gymraeg…

Lleucu Edwards, Arweinydd Cylch Meithrin Eco Tywi
Lleucu Edwards, Arweinydd Cylch Meithrin Eco Tywi

Pam wnes ti benderfynu gwneud prentisiaeth Lefel 5?

Mae gwarchodwyr plant, gofal dydd a gwasanaethau chwarae yng Nghymru yn cael eu cofrestru a’u harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac maen nhw’n cynghori arweinwyr Cylch i gwblhau hyfforddiant Lefel 5.

Roeddwn i newydd ddechrau fy rôl fel Arweinydd Cylch Meithrin Eco Tywi pan ddigwyddodd yr achosion o COVID-19. Felly yn ystod y cyfnod clo, fe wnes i benderfynu cwblhau fy hyfforddiant Lefel 5.

Pa brofiad oedd gen ti ym maes gofal plant cyn cwblhau dy brentisiaeth Lefel 5?

Yn ystod ac ar ôl fy Ngradd BA mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar, cefais lawer o brofiad yn gweithio gyda phlant mewn meithrinfeydd, ysgolion a gydag Urdd Gobaith Cymru.

Pam wnes ti ddewis gwneud cwrs prentisiaeth Hyfforddiant ACT?

Oherwydd fy nghefndir amrywiol a phrofiadol, roeddwn i’n gallu cwblhau’r brentisiaeth wrth weithio a dysgu yn y swydd. Roeddwn i’n ffodus bod grant ar gael gyda hyfforddiant ACT ac roedd fy hyfforddiant i’n rhad ac am ddim.

Pam wnes ti ddewis cwblhau dy hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg?

Cymraeg yw fy mamiaith. Dwi wedi cwblhau fy holl addysg drwy gyfrwng y Gymraeg – ysgol, prifysgol a phrentisiaethau. Dwi hefyd yn gweithio gyda phlant drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghylch Meithrin Eco Tywi.

Faint o amser wnaeth dy brentisiaeth ei gymryd i’w chwblhau?

Dechreuais fy mhrentisiaeth Lefel 5 ddiwedd Mai 2020 a’i chwblhau ym mis Ionawr eleni.

Pam fyddet ti’n argymell gwneud prentisiaeth?

Mae’n wych! Fe fyddwn i’n argymell manteisio ar y cyfle i wneud prentisiaeth wrth i chi ganolbwyntio ar unedau penodol sy’n datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau.

Sut wyt ti’n gweld dy yrfa’n datblygu yn y dyfodol?

Dwi wastad wedi bod eisiau gweithio gyda phlant. Mae gweld plant yn datblygu yn dod â llawenydd i mi.

Fe fydda i’n parhau i ddatblygu fy sgiliau a mynychu hyfforddiant perthnasol. Mae’n bwysig i mi fy mod yn rhoi fy ngorau i’r plant sydd o dan fy ngofal.

Sion Page, Rheolwr Gwasanaethau
Sion Page

Allwch chi ddisgrifio’ch rôl?

Dwi’n Rheolwr Gwasanaethau dros ddau wasanaeth yng Nghaerfyrddin, yn cefnogi pobl hefo problemau meddyliol. Pwrpas y cartrefi yw helpu pobl datblygu sgiliau cymdeithasol ac addasu i fyw yn annibynnol yn y gymdeithas ar ol iddyn nhw adael yr ysbyty.

Pam oeddech chi eisiau gweithio mewn gofal?

Doeddwn i ddim yn gwybod fy mod i moyn nes oeddwn i’n gweithio mewn gofal.

Gadawes i’r ysgol a mynd i weithio yn Matalan, lle ddatblygais i fod yn rheolwr. Yna, fe es i ymlaen i weithio mewn meddygfa deuluol am chwe mis.

Cefais alwad ffôn gan ffrind i mi oedd yn gweithio mewn gofal, i ddweud bod cartref gofal i ddynion hefo problemau meddyliol yn agor yng Nghaerfyrddin. Roedd fy ffrind wedi gweithio i’r cwmni ers blynyddoedd ac roedd yn meddwl y buasai’r gwaith yn fy ngweddu i’n dda. Cefais gyfweliad a derbyniais y swydd.

Sut ddaru chi ddatblygu i fod yn rheolwr gwasanaethau?

Tua blwyddyn yn ddiweddarach death cyfle i helpu mas bach mwy gan fod aelod o staff yn sal. Pe bawn i ishe gwneud y gwaith yn llawn amser roedd rhaid i mi wneud cymhwyster.

Mae Integra Community Living yn cefnogi eu staff i gwblhau hyfforddiant a phrentisiaethau sy’n berthnasol i’w rôl hefo The Educ8 Group. Felly, fe wnes i gwblhau prentisiaeth lefel 3 ac yna prentisiaeth lefel 5, lle roeddwn i’n gweithio wrth wneud y cymhwysterau.

Pam gwnaethoch chi gwblhau’r prentisiaethau drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg?

Dechreuais fy mhrentisiaeth gyntaf yn Saesneg. Dwy i dair uned i mewn i’r brentisiaeth gofynnodd fy asesydd os oeddwn i’n siarad Cymraeg a pe bai gwell gen i gwblhau’r brentisiaeth drwy’r iaith Gymrae. Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cymryd mwy o’r wybodaeth i mewn yn Gymraeg.

Sut brofiad yw gweithio mewn gofal?

Doeddwn i ddim yn gwybod bod llefydd fel hyn i gael. Roeddwn i’n meddwl mai dim ond gofal personol oedd gofal, ond mae cymaint mwy i gael.

Dwi’n mwynhau’r math yma o waith, dyma’r gwaith gorau dwi erioed wedi cael. Mae gwylio pobl ar eu taith, yn datblygu, yn rhoi teimlad da i chi.

Mae gweithio mewn gofal yn rhoi teimlad o gyflawniad gwych.

Pam ddylai pobl ystyried gweithio mewn gofal?

Dyma’r swydd fwyaf gwobrwyol gall unrhyw un gael! Mae’r swydd yn rhoi balchder llwyr i chi wrth wybod eich bod chi’n helpu pobl.

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.