Pwysigrwydd y Gymraeg yn y gwaith.
Mae deddfwriaeth a pholisi yng Nghymru yn nodi bod angen sicrhau’r canlynol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg ym maes gofal cymdeithasol:
- eu bod o’r un safon a’u bod ar gael mor hawdd ac mor brydlon â gwasanaethau Saesneg
- eu bod mor eang a thrylwyr
- ni ddylai sefydliadau ragdybio mai Saesneg yw’r iaith ddiofyn wrth ddarparu eu gwasanaethau
- ni ddylai siaradwyr Cymraeg orfod gofyn am wasanaeth yn y Gymraeg.
Dyma rai dolenni defnyddiol i safonau, cynlluniau ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg. Gwybodaeth am hawliau, cynlluniau iaith Gymraeg, a chanllawiau i helpu i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
– Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru
– Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
– Comisiynydd y Gymraeg
– Iaith.cymru.
Beth yw Mwy na Geiriau?
‘Mwy na Geiriau’ yw Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Ei nod yw:
- sicrhau bod anghenion iaith siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu
- darparu gwasanaethau Cymraeg i’r rhai sydd eu hangen
- dangos bod iaith yn rhan bwysig o ansawdd gofal ac nad yw’n cael ei hystyried yn elfen “atodol”.
Mae gan siaradwyr Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg gyfraniad i’w wneud i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi pedwar grŵp blaenoriaeth y mae gwasanaethau Cymraeg yn bwysig iawn iddynt. Y grwpiau yw:
- plant
- pobl hyn
- pobl ag anableddau dysgu
- pobl â phroblemau iechyd meddwl.
Mae’r grwpiau blaenoriaeth hyn yn agored iawn i niwed os nad ydyn nhw’n derbyn gofal yn eu dewis iaith.
Beth yw’r ‘Cynnig Rhagweithiol’?
Ystyr y ‘Cynnig Rhagweithiol’ yw darparu gwasanaeth yn y Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Dylai gwasanaethau Cymraeg fod ar gael i ddefnyddwyr yn yr un modd â gwasanaethau Saesneg..
Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg mewn ffordd ragweithiol yn sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a’u diwallu a bod y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau gofal yn gwybod y byddant yn cael eu trin â’r urddas a’r parch y maent yn eu haeddu.
Os nad yw gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig mewn ffordd ragweithiol, gallai hynny effeithio ar urddas a pharch pobl.
*Ewch i’n pecyn cymorth i randdeiliaid i lawrlwytho adnoddau dysgu’r cynnig rhagweithiol*
Sut i asesu sgiliau Cymraeg
Cynlluniwyd yr adnodd Sgiliau Iaith Gymraeg eich gweithlu – eu defnyddio yn effeithiol er mwyn helpu i fodloni gofynion ‘Mwy na Geiriau’ trwy helpu cyflogwyr a rheolwyr i nodi’r sgiliau Cymraeg sydd gan eu gweithlu.
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys hunanasesiad sy’n nodi sgiliau siarad, ysgrifennu a darllen Cymraeg, o lefel sylfaenol i rugl. Mae pob lefel yn bwysig ac mae galw mawr amdanynt yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
*Ewch i’n pecyn cymorth rhanddeiliaid i lawrlwytho’r adnoddau dysgu hyn*
Adnodd hyfforddi i gefnogi gweithio’n ddwyieithog
A ‘train the trainer’ resource has been developed to support language awareness. This training has been designed for people working in health and social care, early years and childcare, and for people who are in further or higher education.
Datblygwyd adnodd ‘hyfforddi’r hyfforddwyr’ i gefnogi hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant ac ar gyfer pobl sydd mewn addysg bellach neu addysg uwch.
Bydd y cyflwyniad hwn yn gwneud y canlynol:
- dangos ymwybyddiaeth iaith a’r ffordd orau o weithio’n ddwyieithog
- addysgu dysgwyr ar sut i gynnig gwasanaeth gwerthfawr
- bydd modd ei ddefnyddio fel rhan o hyfforddiant sefydlu ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
*Ewch i’n pecyn cymorth rhanddeiliaid i lawrlwytho’r adnodd Urddas, Iaith a gofal*
Mwy o adnoddau i’ch helpu
Mae Cymraeg Gwaith yn darparu cwrs ar-lein di-dâl ar gyfer dechreuwyr sydd wedi ei deilwra i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i gynnal sgwrs wyneb yn wyneb gychwynnol yn y Gymraeg gyda’r bobl rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.
Mae Sgiliaith (Grŵp Llandrillo Menai) yn cynnig cyngor ymarferol ar arferion da, hyfforddiant staff ac adnoddau, er mwyn gwella sgiliau a phrofiadau dwyieithog dysgwyr.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau fel bod myfyrwyr israddedig ac ôl-radd yn gallu astudio cyrsiau addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ganddo adnoddau i gynorthwyo dysgwyr sydd ag ychydig o sgiliau Cymraeg, os o gwbl, i astudio’r cymwysterau newydd ym meysydd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Hefyd, mae’n cynnig cyrsiau ‘Prentis-iaith’ ar gyfer prentisiaid sydd ag ychydig iawn o sgiliau Cymraeg, os o gwbl, ar hyn o bryd. Maent yn galluogi prentisiaid i gwblhau rhan o’u cymhwyster trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r Cynllun Iaith Gwaith a’r bathodyn swigen oren yn dangos bod unigolyn yn gallu siarad Cymraeg.
Cyfieithu, prawfddarllen a therminoleg
If you are looking for a translator or interpreter service, visit Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru’s website for a list of competent translators and interpreters and their details.
Here are some Welsh online dictionaries to help you learn enhance your vocabulary:
- Gweiadur
- Geiriadur yr Academi
- Geiriadur Prifysgol Cymru
- Geiriadur – University of Wale, Trinity St David
- Y Termiadur Addysg.
Os ydych yn chwilio am gyfieithydd neu wasanaeth cyfieithu ar y pryd, ewch i wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i gael rhestr o gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd cymwys ynghyd â’u manylion.
Dyma rai geiriaduron Cymraeg ar-lein i’ch helpu chi i wella eich geirfa:
- Gweiadur
- Geiriadur yr Academi
- Geiriadur Prifysgol Cymru
- Geiriadur – Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Y Termiadur Addysg.
Porth termau Saesneg i’r Gymraeg a’r Gymraeg i’r Saesneg yw Termau.
Mae Cysgliad yn becyn meddalwedd sydd â dwy raglen, sef: Cysill, sy’n nodi ac yn cywiro gwallau iaith yn eich dogfennau Cymraeg, a Cysgeir, sy’n eiriadur electronig.
Mae Helo Blod yn wasanaeth cyfieithu a gwirio testun di-dâl.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi casglu llawer o dermau sydd wedi cael eu bathu neu a gafodd eu defnyddio yn rheolaidd yn ystod y pandemig er mwyn cynhyrchu geiriadur bach o’r termau coronafeirws mwyaf cyffredin yn y Gymraeg. Nod yr adnodd yw helpu siaradwyr i siarad ac ysgrifennu am y clefyd yn eu hiaith eu hunain.
Apiau ar gyfer dysgu
Dyma rai Apiau Cymraeg difyr ar gyfer dysgu, sydd ar gael ar IOS ac Android.
- Cwrs Mynediad – wedi’i greu gan Brifysgol Aberystwyth
- Learn Welsh – Mynediad 1
- LearnCymraeg – Mynediad – Gogledd Cymru
- Ap Gofalu Trwy’r Gymraeg.
Mentrau Iaith
Mentrau Iaith Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi gwaith 22 o Fentrau Iaith lleol ledled Cymru.
Mae’r Mentrau Iaith yn codi ymwybyddiaeth o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, trwy annog pobl i ddatblygu eu gwybodaeth a’u defnydd o’r iaith a gallu ymarfer eu sgiliau iaith mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol yn y gymuned.
Iaith Gymraeg – ymchwil, technoleg, dysgu, a chefnogi
Canolfan Bedwyr yw canolfan Prifysgol Bangor ar gyfer gwasanaethau, ymchwil a thechnoleg iaith Gymraeg.
Mae Datblygu Sgiliau Iaith yn helpu i ddatblygu hyder myfyrwyr, staff a chyflogwyr i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Datblygwyd Enwau Lleoedd i helpu pobl i ganfod a gwirio bodolaeth enwau Cymraeg am leoedd Saesneg ac i’r gwrthwyneb.
Mae’r adnodd technolegau iaith a lleferydd yn gallu cynhyrchu ac ymateb i lais dynol (testun i lais ac adnabod llais).
Hyfforddiant
Sefydlwyd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu hyfforddiant Cymraeg. Mae’n cynnig ystod eang o hyfforddiant ar-lein, cyrsiau byr, apiau a llawer mwy.
- 1000 o Adnoddau digidol (5 lefel)
- Dysgwch Gymraeg mewn dim ond 5 munud y dydd trwy ddefnyddio’r ap di-dâl Duolingo
- Say something in Welsh
- Fideos YouTube
- Mae Cymraeg Gwaith yn rhaglen hyblyg wedi’i hariannu sydd â’r nod o gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle
- Cefnogi Cyflogwyr– sut i archwilio sgiliau, y cyrsiau sydd ar gael, deilliannau disgwyliedig ac ati.
Bwletin rhithiol ar gyfer adnoddau Cymraeg
Mae hysbysfwrdd rhithiol Cymraeg ar Padlet.com yn cynnwys adnoddau ar gyfer hyfforddiant, dysgwyr, gweithgareddau, apiau, cerddoriaeth, swyddi a llawer mwy i’ch helpu i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.
Adnoddau addysgol
OpenLearn Wales: The home of bilingual, free learning in Wales – adnodd ar gyfer pobl sydd am wybod mwy am gymdeithas a diwylliant Cymru gan gyflwyno casgliad o adnoddau addysgol di-dâl sy’n berthnasol i Gymru.