Gwobrau Gofalwn Gyda'n Gilydd
Mae digwyddiad newydd yn dod i Orllewin Morgannwg. Bydd Gwobrau Gofalwn Gyda'n Gilydd yn dathlu rhagoriaeth ym maes gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar. Dyma eich cyfle i dynnu sylw at y bobl a’r gwasanaethau anhygoel sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws y rhanbarth.
Mae Gofalwn Cymru, Cyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn falch o lansio Gwobrau Gofalwn Gyda'n Gilydd, digwyddiad newydd uchel ei fri sy'n ymroddedig i anrhydeddu'r gweithwyr proffesiynol eithriadol ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yn rhanbarth Gorllewin Morgannwg (Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot).
Cynhelir y seremoni a reolir gan JR Event Management ar 13 Mawrth 2026 yn lleoliad eiconig Neuadd Brangwyn yn Abertawe. Bydd yn tynnu sylw at dosturi, sgiliau ac ymroddiad gweithlu gofal y rhanbarth. Nod y gwobrau yw dathlu cyflawniadau eithriadol, arddangos arferion gorau a chydnabod y cyfraniadau allweddol y mae'r gweithwyr proffesiynol hyn yn eu gwneud at lesiant unigolion a chymunedau.
Meddai Andrew Bell, Pennaeth Gofalwn Cymru:
“Mae Gofalwn Cymru yn falch o weithio gyda rhanbarth Gorllewin Morgannwg i gefnogi'r digwyddiad cyffrous hwn, sy'n cydnabod pwysigrwydd a gwerth ein gweithlu gofal.”
Meddai Martin Nicholls, Prif Weithredwr Cyngor Abertawe:
“Mae Cyngor Abertawe'n falch o ddathlu ymrwymiad eithriadol ein gweithwyr proffesiynol ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar drwy wobrau Gofalwn Gyda'n Gilydd. Mae eu tosturi a'u hymroddiad yn trawsnewid bywydau unigol, yn ogystal â chryfhau hanfod ein cymunedau. Mae'r digwyddiad hwn yn gydnabyddiaeth ystyrlon o'u cyfraniad hollbwysig at greu Gorllewin Morgannwg sy'n fwy gofalgar a chadarn.”
Ychwanegodd Frances O’Brien, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot:
“Mae'n fraint i ni gefnogi Gwobrau Gofalwn Gyda'n Gilydd wrth iddynt gael eu cyflwyno am y tro cyntaf, gan ddathlu ymroddiad ein gweithwyr proffesiynol ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar ledled Gorllewin Morgannwg. Mae eu gwaith wrth wraidd ein cymunedau, ac mae'r dathliad hwn yn gydnabyddiaeth haeddiannol iawn o'u cyfraniadau amhrisiadwy.”