Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

20 Gorffennaf 2022

Pecyn cymorth ar gyfer dementia

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cynhyrchu pecyn cymorth gweithredu dysgu a datblygu gofal a chymorth dementia syml.

Bydd y canllaw syml, ymarferol yn helpu sefydliadau ei ddefnyddio i roi’r fframwaith Gwaith Da ar waith. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys adnoddau ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd ac unrhyw fath o broffesiwn sy’n cefnogi pobl â dementia.

Nodau’r pecyn yma yw:

  • eich helpu i ddod ynghyd â phobl eraill sy’n gysylltiedig i hunanasesu dysgu a datblygu
  • eich helpu i gyflwyno tystiolaeth dros fuddsoddi mewn dysgu a datblygu ar gyfer gofal dementia
  • eich helpu i adeiladu ar sail beth sy’n gweithio’n dda a gwneud gwelliannau pellach
  • eich helpu i ddatblygu sgiliau craidd seiliedig ar werthoedd, wedi’u seilio ar egwyddorion gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar gyfer yr holl staff sy’n dod i gysylltiad â phobl sydd â dementia a’u teuluoedd
  • eich helpu i ddefnyddio dulliau cydgynhyrchu wrth gynllunio a darparu dulliau dysgu a datblygu yn barhaus
  • eich helpu i ddarparu dulliau dysgu a datblygu i gwrdd â gwahanol anghenion pobl sydd â dementia a’u teuluoedd
  • darparu offer hylaw y gallwch eu defnyddio i roi’r dulliau dysgu a datblygu ar waith mewn gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • eich helpu i ddatblygu amrywiaeth o ddulliau dysgu a datblygu i gwrdd â gwahanol anghenion dysgu eich gweithlu
  • bod yn offeryn ‘byw’ sy’n gallu tyfu ac addasu ochr yn ochr â datblygiadau mewn dysgu, addysg, a hyfforddiant ar gyfer gofal dementia.

 

I gael mynediad at y pecyn cymorth, ewch i becyn cymorth gweithredu dysgu a datblygu gofal dementia a chymorth | Gofal Cymdeithasol Cymru

Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â dementia@socialcare.cymru

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.