Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

10 Awst 2022

Rhaglen bartneriaeth Ymddiriedolaeth y Tywysog: cyflwyniad pwrpasol i bobl ifanc i gyfleoedd gyrfa ym maes gofal cymdeithasol

Mae 11 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru wedi cael cyflwyniad pwrpasol i hyfforddiant gofal cymdeithasol, trwy bartneriaeth newydd hefo Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Dyma’r cyntaf, gobeithio, mewn cyfres barhaus o raglenni hyfforddiant rhad ac am ddim rhwng Gofalwn Cymru ac Ymddiriedolaeth y Tywysog i danio diddordeb pobl ifanc mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn gweithio gyda nhw mewn gyrfa ym maes gofal.

Cynhwysodd y rhaglen ar-lein dridiau weithdai ar:

  • y rhinweddau personol y mae eu hangen i fod yn weithiwr gofal cymdeithasol
  • y ddyletswydd gofal, risg a diogelu
  • cyfrinachedd a chydsyniad
  • gwydnwch personol a lles.

Hefyd, cafodd y bobl ifanc hyfforddiant gan Ymddiriedolaeth y Tywysog i’w helpu i fod yn ‘barod at waith’, a wnaeth gynnwys paratoi ar gyfer cyfweliadau a sut i lenwi ffurflenni cais.

Yna, cafodd yr 11 o bobl ifanc a gwblhaodd y rhaglen gynnig sicr o gyfweliad gyda darparwyr gofal cymdeithasol i’w helpu i gymryd y camau cyntaf tuag at yrfa ym maes gofal.

Meddai un o’r bobl ifanc a gymerodd ran yn y rhaglen hyfforddiant:

“Ymunais â’r cwrs i ennill profiad ym maes gofal oedolion… Rwy’ wrth fy modd nad yw’r un dau ddiwrnod o weithio yn y sector yr un peth ac mae’n rhoi gwir foddhad â’r gwaith.”

Dywedodd un o’r cyfranogwyr ifanc eraill:

“Mwynheais bob rhan o’r rhaglen. Roedd yn gynhwysfawr a dysgais lawer am y gwahanol rolau, am gyfathrebu ac am iechyd a diogelwch.”

Meddai Patrick Coombes, Arweinydd Datblygu Ieuenctid ar gyfer Ymddiriedolaeth y Tywysog:

“Roedd y cwrs yn wych ac, o’m safbwynt i, roedd yn llwyddiannus iawn. Roedd y sylwadau gan y bobl ifanc yn adleisio’r sylwadau ar ein ffurflenni adborth.”

Yn dilyn llwyddiant y rhaglen beilot, bydd Gofalwn Cymru yn cynnal rhaglen hyfforddiant arall gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog yn y dyfodol agos.

Mae’r rhaglen yn seiliedig ar ein cyflwyniad presennol i hyfforddiant gofal cymdeithasol.

Cyflwyniad i hyfforddiant gofal cymdeithasol

Rydyn ni’n cynnig rhaglen hyfforddiant ar-lein wedi’i ariannu i unrhyw un dros 18 oed sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.

Mae’r hyfforddiant yn para tridiau. Gallwch gofrestru ar Eventbrite.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: cyswllt@gofalwn.cymru.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.